Cân a fideo cerddorol Yr Ochr Draw yw penllanw prosiect creadigol digidol Yr Ysgwrn a chymuned Trawsfynydd. Yn ystod y cyfnod clo diwethaf bu criw o bobl ifanc a phlant Ysgol Bro Hedd Wyn yn cydweithio gydag amrywiol artistiaid dros Zoom a Meet i greu cân a fideo cerddorol.

Yr artistiaid ynghlwm a’r prosiect oedd y cerddorion Gai Toms a Manon Llwyd, yr artist gweledol Catrin Williams, golygydd Rhys Grail a’r cydlynydd creadigol Siwan Llynor. Recordiwyd y lleisiau a’r deunydd i’r fideo i gyd mwy neu lai ar ffonau symudol.

Mae Gai Toms a Siwan Llynor wedi cydweithio gyda’r Ysgwrn a’r gymuned yn y gorffennol ar gynhyrchiad theatr ‘Yr Awen’. Nod y prosiect hwn oedd parhau â’r cyswllt creadigol mewn cyfnod heriol ac i ddathlu bro Trawsfynydd a’i thirwedd. Mae’n gofnod o gyfnod mewn hanes ardal ac yn gân o obaith wrth edrych i’r dyfodol.

Diolch i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth i’r prosiect.