Prosiect adfer mawndir ym Mwlch y Groes ar ymyl Parc Cenedlaethol Eryri yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru i gael ei gwblhau gydag arian a godwyd trwy werthu carbon, yn dilyn dilysiad gan y Côd Mawndiroedd.
Diolch i nawdd gan Gynllun Rheoli Cynaliadwy Mawndiroedd Cymru, sef prosiect dan arweiniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, a chydweithrediad teulu’r Roberts sydd wedi ffermio ym Mhennant, Llanymawddwy ers sawl cenhedlaeth, mae’r prosiect adfer mawndir 66 hectar wedi ei gwblhau’n llwyddiannus.
Dros fisoedd y gaeaf ymgymerwyd â’r gwaith adfer gan gontractwyr ag arbenigedd mewn mawndiroedd er mwyn ail-broffilio a chau torlannau mawn a rhigolau. Trwy adfer y safle amcangyfrifir y bydd 2,335 tunnell o allyriadau carbon yn cael eu hatal rhag cael eu rhyddhau dros y 35 mlynedd nesaf, sy’n fras yn gyfwerth â’r cyfaint o garbon deuocsid a gynhyrchir wrth losgi llond 632* tanc domestig o olew.
Yn ogystal ag atal rhyddhad carbon o’r mawn a diogelu ei storfa sylweddol o garbon, daw buddion eraill yn sgil y gwaith fel gwell ansawdd dŵr, llif dŵr mwy sefydlog, cynnydd mewn bioamrywiaeth ac amodau cynefin gwell ar gyfer creaduriaid dŵr croyw di-asgwrn-cefn ac adar. Mae’r ardal amgylchynol yn cynnal y darn helaethaf trwy Gymru o orgors sydd fwy neu lai’n gwbl naturiol, a hefyd yr ardal ucheldir pwysicaf ar gyfer adar sy’n magu, yn cynnwys amrywiaeth eang o rywogaethau o bwysigrwydd rhyngwladol.
Cydariannwyd y prosiect trwy Gynllun Rheoli Cynaliadwy Mawndiroedd Cymru ynghyd ag incwm carbon a gynhyrchwyd o werthiant credyd carbon trwy Forest Carbon. Dilyswyd y credydau carbon hyn dan y Côd Mawndiroedd gan eu galluogi i gael eu marchnata gan y sector preifat.
Mae DEYA Brewing, mewn cydweithrediad â Forest Carbon, wedi ymrwymo i gaffael gwerth 2.335 tunnell o arbedion carbon y mae’r prosiect yn amcangyfrif y bydd yn ei gyflawni dros y 35 mlynedd nesaf.
Meddai George Hepburne Scott, Cyfarwyddwr Forest Carbon:
“Dyma’r trydydd prosiect adfer mawndir yn y DU, lle mae Forest Carbon wedi cynorthwyo i ddefnyddio nawdd carbon ochr yn ochr â grantiau er mwyn ariannu’r gwaith. Rydym yn credu bod posibilrwydd anferth yma i adeiladu ar y prosiectau hyn a chynyddu’r gwaith adfer dros y blynyddoedd nesaf trwy gyfuno’r defnydd o arian preifat a chyhoeddus yn effeithiol”.
Meddai Rachel Harvey, Rheolwr Prosiect Mawndiroedd Cymru yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:
“Dim ond y trydydd safle trwy Gymru a ddilyswyd trwy’r Côd Mawndiroedd yw hwn, a’r cyntaf i’w gyd-ariannu gan gyllid carbon ac arian cyhoeddus. Yn ogystal â bod yn enghraifft wych o’r modd y gall y Côd Mawndiroedd hwyluso adferiad mawndiroedd hirdymor, mae hefyd yn arwain y ffordd ar gyfer safleoedd tebyg ym mherchnogaeth tirberchnogion unigol neu deuluoedd amaethyddol. Gobeithiwn y bydd llwyddiant Bwlch y Groes yn arwain at lawer iawn mwy o’n mawndiroedd Cymreig yn mabwysiadu’r Côd Mawndiroedd ar gyfer adferiad a rheolaeth hirdymor”.
Meddai’r tirberchnogion, Sion a Lisa Roberts o fferm Pennant:
“Rydym yn falch iawn o allu magu anifeiliaid ar gyfer y farchnad fwyd ochr yn ochr â gwella cynefinoedd a chynyddu’r storfa garbon ym Mwlch y Groes. Mae’r broses wedi bod yn un hynod o syml – o’r gwaith adfer i werthu’r credyd carbon, ac edrychwn ymlaen at gyflawni prosiectau eraill posib yn y blynyddoedd sydd i ddod”.
Meddai Theo Freyne, perchennog DEYA Brewing:
“Mae’r buddsoddiad y mae DEYA Brewing wedi ei wneud i gyflawniad prosiect adfer mawndir Bwlch y Groes yn rhan o’n hymdrechion ehangach i liniaru effaith ein hallyriadau gweddilliol tra’r ydym yn gwneud pob ymdrech i weithredu mesurau mewnol i leihau carbon ar draws ein proses fragu”.
* Cyfrifwyd yn seiliedig ar ffigyrau Defra (2007) bod 2.96kg o garbon deuocsid yn cael ei gynhyrchu am bob un litr o olew a losgir.
Nodyn i Olygyddion
- Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
- Yn rhedeg ar hyd ymyl dwyreiniol Parc Cenedlaethol Eryri, eistedda ardal y prosiect o fewn mynyddoedd y Berwyn a bryniau De Clwyd. Yn ardal 2,209 hectar, dyma un o’r ardaloedd mwyaf o rostir ucheldirol yn Ewrop. Gorgors mewn bwlch i’r dwyrain o Lyn Efyrnwy a rhwng yr Aran Fawddwy a’r Berwyn yn ne Eryri yw safle adfer mawndir Bwlch y Groes.
- Mae prosiect Bwlch y Groes wedi ei ddilysu dan Gôd Mawndiroedd yr IUCN gan y corff achredu penodedig OF&G. Bydd yn parhau i gael ei fonitro a’i ddilysu dan y Côd Mawndiroedd bob 10 mlynedd. Safon ardystio gwirfoddol ar gyfer prosiectau mawndir y DU sy’n dymuno marchnata buddion i hinsawdd o adfer mawndir yw’r Côd, sy’n rhoi sicrwydd i brynwyr gwirfoddol y farchnad garbon bod y buddion i hinsawdd yn rhai gwir, yn fesuradwy, yn ychwanegol ac yn barhaol.
- Mae safle’r prosiect wedi ei leoli o fewn sawl ardal o ACA, AGA a SoDdGA
- I drefnu cyfweliad neu am ragor o wybodaeth ynghylch y prosiect gallwch gysylltu gydag un ai:
George Hepburne Scott – georgehs@forestcarbon.co.uk neu
Gwen Aeron Edwards – Swyddog Cyfathrebu Cynllunio a Rheolaeth Tir ar 01766 772 238 neu e-bost gwen.aeron@eryri.llyw.cymru