Adfer terfynau traddodiadol, cynnal a chadw llwybrau, gwaith celf murlun – dyma ond ychydig o’r buddion ddaeth i gymuned Comin Uwch Gwyrfai dros y ddwy flynedd diwethaf yn sgil prosiect Cysylltu Comin a Chymunedau Uwch Gwyrfai.

Yn pontio rhan fechan o ffin gogledd-orllewin y Parc Cenedlaethol mae Comin Uwch Gwyrfai – sef ardal eang o rostir mynydd, a chynefin arbennig i amrywaieth o lystyfiant ac adar. Er mwyn diogelu’r cynefin arbennig hwn er budd ei fywyd gwyllt yn ogystal â cheisio ehangu’r amrywiaeth o rywogaethau, tra hefyd yn cynnal y borfa ar gyfer y gymdeithas pori sefydlwyd prosiect ar y cyd rhwng Awdurdod y Parc Cenedlaethol a Chymdeithas Porwyr Uwch Gwyrfai. Ariannwyd y prosiect trwy Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru.

Yn ogystal â’r buddion amgylcheddol o weithredu rhaglen rheoli rhostir, mae tirfeiddianwyr lleol hefyd wedi elwa trwy gynllun grantiau arbennig i adfer terfynau carreg traddodiadol. Galluogodd y prosiect well rheolaeth stoc trwy ffensio terfynnau’r comin a phlannu gwrychoedd mewn mannu i hybu bioamrywiaeth, yn ogystal â hwyluso gosod grid gwartheg ym mhentref Fron er mwyn rhwystro defaid rhag dianc oddi ar y comin.

Roedd elfen ymgysylltu yn rhan bwysig o’r prosiect, a bu llawer iawn o gydweithio gyda’r ysgol leol, Ysgol Rhosgadfan, ar furlun mosaig newydd sydd wedi ei osod ar wal yr ysgol. Bu arlunydd lleol, Ann Smith yn gweithio ar y dyluniad gyda’r disgyblion gyda’r weledigaeth o ddathlu rhai o nodweddion arbennig yr ardal.

Un o nodau’r proseict hefyd oedd annog trigolion i fynd allan i ddarganfod a dysgu mwy am eu milltir sgwâr, ac i’r perwyl hwn y cwblhawyd gwaith cynnal a chadw ar Lwybr Ffynnon Dŵr Oer a Llwybr Tram Rhosgadfan, yn ogystal â chynnal teithiau tywys gyda arbenigwyr yn y maes ecoleg a hanes.

Meddai Dion Roberts, Swyddog Prosiect:

“Mae wedi bod yn bleser cydweithio efo cymuned Comin Uwch Gwyrfai dros y ddwy flynedd diwethaf. Mae wedi bod yn brosiect hynod llwyddiannus, ac sydd wedi cyflawni llawer o fewn yr ardal trwy gydweithio gyda tirfeiddianwyr, unigolion, mentrau a busnesau lleol.

Daeth Covid-19 ar adeg drwg yng nghanol y prosiect, ond yn ffodus ni amharodd hyn yn ormodol ar fomentwm y prosiect. Mae’n braf clywed sylwadau da ynghylch y gwaith ar y llwybrau, gyda phobl yn fwy tueddol i gerdded o fewn eu milltir sgwâr”.

Meddai John Griffith, Ysgrifennydd Cymdeithas Porwyr Uwch Gwyrfai:

“Dyma benllanw blynyddoedd o ymgynghori a phwyllgora di-rif, ac yr ydym yn ddiolchgar i bawb a fu’n rhan o’r daith. Yr ydym yn ffyddiog bydd y comin ar ei newydd wedd o fudd i’r gymuned, yr hwn mae’r porwyr yn rhan ohono. Priodol iawn yw murlun Ysgol Rhosgadfan er cof am Griffith Davies, y sawl ag achubodd y comin i’r werin”.

Nodyn i Olygyddion

Am fwy o fanylion cysylltwch â Ioan Gwilym, Swyddog Cyfathrebu Gwasanaethau Corfforaethol APCE ar 01766 772 253 / 07900 267506 neu e-bostio ioan.gwilym@snowdonia.gov.wales