Cyflwynodd Elfed Wyn ap Elwyn ddeiseb gyda dros 5,000 o enwau gan lofnodwyr o ar draws y byd i Gadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri heddiw.

Yng nghyfarfod yr Awdurdod ar y 28ain o Ebrill ystyrwyd cynnig sef:

“Bod yr Awdurdod o hyn ymlaen yn defnyddio enw Cymraeg yr Awdurdod yn unig ar gyfer yr Awdurdod a bod hyn yn dod yn berthnasol mewn unrhyw iaith h.y. ‘Parc Cenedlaethol Eryri’ a byth yn defnyddio ‘Snowdonia National Park’ eto. Dylai’r un peth fod yn berthnasol i Yr Wyddfa – byth i ddefnyddio’r enw ‘Snowdon’ ar ei gyfer eto”.

Penderfynodd Aelodau’r Awdurdod nad oedd angen ystyriaeth ar y diwrnod ir cynnig, gan fod Grŵp Tasg a Gorffen wedi cael ei apwyntio’n barod yn dilyn ystyriaeth blaenorol oedd yn argymell sefydlu a mabwysiadu canllawiau a’r ddefnydd enwau lleoedd gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Yn dilyn cyfarfod yr Awdurdod derbyniodd y mater lawer o sylw gan y cyhoedd a’r wasg gyda teimladau cryf a safbwyntiau gwahanol yn cael eu rhoi.

Wedi prysurdeb yr Haf mi fydd y grŵp tasg a gorffen yn mynd ati i ddatblygu fframwaith polisi i alluogi APCE i amddiffyn a safoni’r defnydd o enwau lleoedd ym Mharc Cenedlaethol Eryri gan yr Awdurdod. Mi fyddant hefyd yn codi ymwybyddiaeth ymhlith gwahanol gynulleidfaoedd gan gynnwys cynulleidfaoedd lleol a rhyngwladol o bwysigrwydd enwau lleoedd yn Eryri; ac fel ffynhonnell sy’n cryfhau cysylltiadau ag amgylchedd, hanes a threftadaeth yr ardal.

Dywedodd Elfed Wyn ap Elfyn, Cymdeithas yr Iaith;

“Mae ymosodiadau tuag at yr iaith Gymraeg yn rhywbeth cyson bellach, gwelir hyn yn y ffordd mae enwau tai ac ardaloedd yn cael eu newid o’r Gymraeg. Teimlaf i a llawer o bobl eraill y byddai defnyddio enwau ‘Eryri’ ac ‘Yr Wyddfa yn gam cadarnhaol tuag at ddangos pwysigrwydd yr iaith Gymraeg”.

Dywedodd Wyn Ellis Jones, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri;

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi ymrwymo i warchod a hyrwyddo enwau lleoedd brodorol ar gyfer defnydd dyddiol ac ar gyfer cenhedlaethau’r dyfodol. Un o amcanion y grŵp Tasg a Gorffen fydd nodi sut mae llwyddiant defnydd yr enwau lleoedd yn edrych. Mae bywiogrwydd yr iaith Gymraeg yn un o rinweddau arbennig Eryri a rydym yn angerddol dros barchu a gwarchod ein cymunedau, ein diwylliant a’n hiaith”.

Nodyn i Olygyddion

Am fwy o fanylion cysylltwch â Ioan Gwilym, Swyddog Cyfathrebu Gwasanaethau Corfforaethol APCE ar 01766 772 253 / 07900 267506 neu e-bostio ioan.gwilym@snowdonia.gov.wales