Yr hydref hwn bydd Eryri’n dathlu 70 mlynedd ers ei ddynodi’n Barc Cenedlaethol, ac er mwyn nodi’r achlysur mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi lansio oriel ddigidol o hen ffotograffau.

Mae hi’n flwyddyn arbennig iawn i ni yma yn Awdurdod y Parc gan ein bod yn dathlu 70 mlynedd ers dynodiad Eryri’n Barc Cenedlaethol. Dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf sy’n arwain at ddyddiad swyddogol y dathliad, sef Hydref y 18fed, bydd yr Awdurdod yn ymgymryd â sawl prosiect er mwyn nodi’r achlysur arbennig.

Un o’r prosiectau hynny yw cwblhau oriel o hen ffotograffau o Eryri a gwaith Awdurdod y Parc dros y degawdau er mwyn cofnodi, hel atgofion a dathlu’r prif gerrig milltir a digwyddiadau yn hanes y Parc Cenedlaethol. Hyd yma mae yno gymysgedd dda o hen luniau golygfeydd, safleoedd a staff yn ogystal â rhai sy’n cofnodi’r hen ffordd o fyw.

Yn ôl yn y dechreuad, adran o Gyngor Meirionnydd, ac yna Cyngor Sir Gwynedd oedd yng ngofal y Parc Cenedlaethol, cyn i’r ad-drefnu llywodraeth leol ym 1996 arwain at greu Awdurdod Lleol annibynnol ar gyfer y Parc Cenedlaethol chwarter canrif yn ôl. Er y newid yng ngweinyddiaeth Parc Cenedlaethol Eryri dros y degawdau, mae’r pwrpasau craidd wedi parhau i fod yn greiddiol i holl waith yr Awdurdod hyd heddiw a gobeithiwn y bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr oriel.

Meddai Gwen Aeron Edwards, Swyddog Cyfathrebu’r Awdurdod sydd wedi bod yn cydlynu’r Oriel Ffotograffau:

“Mae wedi bod yn bleser pur edrych yn ôl trwy’r mynydd o hen luniau sydd gennym, ac mae ambell un wedi codi gwên. Y nod ar y dechrau oedd ceisio dod o hyd i un llun a dynnwyd ym mhob un o’r 70 blwyddyn, ond gyda chymaint o luniau daeth yn amlwg yn eithaf buan na fyddai’n bosib delis dim ond un ac felly fe drodd yr oriel yn dipyn o gasgliad!”.

Er yr holl luniau, mae rhai blynyddoedd nad ydym eto wedi llwyddo i sicrhau lluniau ar eu cyfer. Felly rydym yn gwahodd y cyhoedd i’n helpu trwy anfon eu hen luniau atom er mwyn ceisio cyflawni’r oriel. Os oes gan unrhyw un hen luniau o Eryri a dynnwyd rhwng heddiw a 1951 yna byddem wrth ein bodd yn cael eu gweld, a’u hychwanegu at ein oriel ffotograffau.

Nodyn i Olygyddion

  1. Dynodwyd Eryri’n Barc Cenedlaethol ar Hydref y 18fed 1951, ac yn sgil ad-drefnu Llywodraeth Leol ym mis Ebrill 1996 sefydlwyd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri fel corff cyhoeddus ac Awdurdod Cynllunio annibynnol.
  2. Pwrpasau statudol craidd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yw gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal; ac i hyrwyddo cyfleoedd i ddeall a mwynhau ei rhinweddau arbennig. Mae ganddo hefyd ddyletswyddau feithrin lles economaidd a chymdeithasol ei chymunedau
  3. Mae dathliadau eraill ar gyfer nodi’r 70 mlynedd yn cynnwys prosiect celf, plannu coed a thaith aml-gymal arbennig o ogledd y Parc i’r de ar gyfer staff, aelodau a phartneriaid.
  4. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Gwen Aeron Edwards, Swyddog Cyfathrebu Cynllunio a Rheolaeth Tir ar gwen.aeron@eryri.llyw.cymru neu 01766 770 274