ninnau bron hanner ffordd trwy wyliau’r haf, mae ymdrechion Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a’i bartneriaid i annog a hwyluso ymweliad cynaliadwy â’r ardal yn parhau.

Ers diwedd cyfnod clo cyntaf pandemig Covid-19 mae Eryri wedi gweld niferoedd digynsail o ymwelwyr â’r Parc Cenedlaethol. Tra bod cyfyngiadau a rheolau teithio dramor yn parhau i fod yn weithredol ar gyfer rhai cyrchfannau haf poblogaidd, mae Awdurdod y Parc yn rhagweld y bydd y duedd bresennol i dreulio gwyliau yn y Parciau Cenedlaethol yn parhau.

Wrth ragweld tymor ymwelwyr prysur arall eleni, dros y gaeaf bu Awdurdod y Parc a’i bartneriaid yn brysur yn cydweithio ar gynlluniau i fynd i’r afael â rhai o’r problemau a gafwyd y llynedd.

Un o’r problemau hynny oedd pwysau pobl a’r niferoedd o geir oedd yn parcio’n anghyfreithlon neu’n beryglus yn y Parc Cenedlaethol, yn enwedig yn yr ardaloedd prysuraf. Er mwyn ceisio lleihau effaith ceir yn yr ardaloedd mwyaf poblogaidd mae Awdurdod y Parc bellach yn gweithredu system rhagarchebu parcio ym Mhen y Pass ac wedi cydweithio â Chyngor Gwynedd i ehangu a hyrwyddo’r gwasanaeth bysus sy’n rhedeg yn ardal Yr Wyddfa a Dyffryn Ogwen. Yn yr hir dymor mae Awdurdod y Parc yn cydweithio â phartneriaid ar gynllun trafnidiaeth a pharcio newydd arloesol ar gyfer yr ardal. Am eleni rydym yn annog defnyddwyr i fanteisio ar y gwasanaeth bws ehangach a ddarperir, yn cynnwys y gwasanaeth newydd yn ardal Ogwen.

Diolch i gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru mae presenoldeb ehangach ar y ddaear eleni hefyd gan fod mwy o Wardeiniaid Tymhorol wedi eu penodi am y tymor. Yn ogystal â chynorthwyo gyda’r gwaith o gynghori ymwelwyr maent hefyd yn monitro ac yn adrodd ynghylch y sefyllfa allan ar y ddaear fel y gellir ymateb yn brydlon i unrhyw broblemau sy’n codi. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn am y tîm ymroddgar o Wardeiniaid Gwirfoddol sydd gennym ar gyfer ardal Yr Wyddfa.

Gyda’r cynnydd yn niferoedd yr ymwelwyr yn anffodus daw cynnydd yn y sbwriel sydd angen ymdrin ag ef. Tra bod gwaith partneriaeth yn mynd rhagddo yn y cefndir er mwyn ceisio datrys y broblem sbwriel trwy ymgyrchoedd i annog newid ymddygiad, mae tîm o wirfoddolwyr Caru Eryri yn gwneud gwaith arbennig ar y ddaear. Trwy gydweithio gyda Chymdeithas Eryri, y Bartneriaeth Awyr Agored a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae sawl tîm o wirfoddolwyr allan ar y penwythnosau yn casglu sbwriel ac yn cynghori ymwelwyr.

I glymu hyn oll rydym yn gweithredu ymgyrch gyfathrebu 2021 sef #CynllunioCanfodCaru. Prif neges yr ymgyrch yw bod y Parc Cenedlaethol yn ardal arbennig a sensitif gyda chymunedau byw, a bod gan ymwelwyr ran i’w chwarae wrth warchod a pharchu’r rhinweddau arbennig yma. Mae ein negeseuon hefyd yn pwysleisio fod Eryri’n hynod o brysur eleni ac felly ei bod yn hanfodol bod pobl yn archebu a threfnu eu hymweliad ymlaen llaw, neu’n ystyried ymweld yn ystod misoedd tawelach yr hydref.

Meddai Emyr Williams, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

“Mae’r deunaw mis diwethaf wedi bod yn rhai digynsail o’r 70 mlynedd ers sefydlu’r Parc Cenedlaethol, ac rydym fel Awdurdod yn cydnabod y pwysau sydd wedi bod ar y cymunedau, yn enwedig y cymunedau hynny sydd heb brofi pwysau ymwelwyr ar y fath raddfa o’r blaen.

Rydym yn gobeithio’n fawr ein bod ni fel Awdurdod a phartneriaid wedi llwyddo i leddfu rhywfaint ar y pwysau hynny, a byddwn yn parhau i wneud yr hyn sydd o fewn ein pwerau i sicrhau bod cymunedau Eryri yn cael eu diogelu.”

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Griffith, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:

“Rydym yn parhau i gydweithio gyda’n partneriaid ym Mharc Cenedlaethol Eryri a Heddlu Gogledd Cymru i annog modurwyr i ddefnyddio synnwyr cyffredin pan fyddan nhw’n ymweld â Gwynedd er mwyn cadw’r ardal yn ddiogel i bawb.

Mae gwasanaethau bws ar gael i gludo cerddwyr at ddechrau’r llwybrau cerdded y mynyddoedd. Os ydi maes parcio yn llawn, gofynnwn i bobl chwilio am leoliad arall addas yn hytrach na pheryglu’r ffordd i yrwyr eraill, beicwyr a cherddwyr all achosi problemau mynediad difrifol i gerbydau’r gwasanaethau brys, gan gynnwys gwirfoddolwyr achub mynydd.

Mae’r rheolau yno i gadw pawb yn saff. Os byddwch yn anwybyddu’r rheolau, mae’n debyg iawn y byddwch yn wynebu dirwy neu mae’n bosib y bydd eich cerbyd yn cael ei gludo oddi yno gan yr awdurdodau.”

Nodyn i Olygyddion

  1. Am ragor o wybodaeth ynghylch ymgyrch #CynllunioCanfodCaru ewch i’r adran ddynodedig ar wefan Awdurdod y Parc yma Eryri – Snowdonia (llyw.cymru)
  2. Am ragor o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad cysylltwch â Swyddog Cyfathrebu Cynllunio a Rheolaeth Tir APCE, Gwen Aeron Edwards ar gwen.aeron@eryri.llyw.cymru neu 01766 772 238