Yr Hydref hwn mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Choed Cadw yn dod ynghyd i weithredu prosiect newydd arbennig sydd â’r nod o blannu coed a gwrychoedd o fewn ardal ddynodedig yn y Parc Cenedlaethol.

Yn ogystal â helpu’r amgylchedd yn wyneb newid hinsawdd a’u rôl wrth liniaru llifogydd, mae coed a gwrychoedd hefyd yn ffurfio rhan hanfodol o ecosystem cefn gwlad. Mae gwrychoedd yn chwarae rhan bwysig wrth gysylltu cynefinoedd mewn tirwedd dameidiog.

Mae clystyrau coed a gwrychoedd sy’n ffinio caeau amaethyddol hefyd yn nodweddiadol o dirwedd Eryri, ac yn un o’r rhinweddau sy’n gwneud yr ardal mor arbennig. Ond gyda lledaeniad cyflym clefyd coed ynn mae nifer fawr o’n coed aeddfed dan fygythiad, ac felly un o nodau’r prosiect yma yw ceisio gwneud i fyny am y coed fydd yn cael eu colli i’r clefyd yma.

Diolch i nawdd gan y People’s Postcode Lottery – mae Coed Cadw yn ariannu gwerth dros £25,000 o waith ffensio er mwyn gwarchod y coedlannau a’r gwrychoedd newydd tra maent yn sefydlu. Meithrinfa goed Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ym Mhlas Tan y Bwlch fydd yn darparu’r coed, gyda’r nod o blannu 8,000 o goed brodorol a 1,800 metr o wrych. Mae ardal y prosiect yn cwmpasu 27 o Gynghorau Cymuned, o Feddgelert yn y gogledd yr holl ffordd i lawr i Aberdyfi a Phennal yn y de, ac yn ymestyn i’r dwyrain hyd at Rydymain a Mawddwy.

Meddai Rhys Owen, Pennaeth Cadwraeth, Coed ac Amaeth Awdurdod y Parc Cenedlaethol:

“Yn ogystal â’r buddion amlwg i’r amgylchedd a bioamrywiaeth, bydd y cynllun hwn yn dod â buddion amaethyddol hefyd trwy greu terfynau caeau cadarn a dibynadwy yn ogystal â chysgod hanfodol i anifeiliaid fferm.

Bydd plannu mwy o goed y tu allan i goedlannau yn ne’r Parc Cenedlaethol hefyd yn diogelu’r dirwedd goediog sy’n nodweddiadol o’r ardal, ac sydd wedi ysbrydoli a denu ymwelwyr ar hyd y blynyddoedd.”

Meddai Natalie Buttriss, Cyfarwyddwr Coed Cadw, y Woodland Trust yng Nghymru:

“Mae gwrychoedd yn rhan o draddodiad amaeth‐goedwigaeth hynafol ynghyd â phorfa goediog. Ynghyd â gwrychoedd a choed hynafol yn ogystal â chynefinoedd ymyl cae, maent yn ffurfio rhwydwaith cynefinoedd helath sy’n hanfodol i fywyd gwyllt ac yn diffinio ein tirweddau. Maent yn darparu llawer o fuddion ymarferol gan gynnwys amddiffyn da byw rhag eithafion tywydd, cynorthwyo bioddiogelwch, lliniaru llifogydd, a gwella adnoddau pridd, carbon a dŵr.”

Cefnogir cyfrangogiad Coed Cadw yn y prosiect hwn, mewn cydweithrediad ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, gan chwaraewyr People’s Postcode Lottery.

Dywedodd Laura Chow, Pennaeth elusennau’r Postcode Lottery:

“Mae coed a gwrychoedd yn hanfodol wrth helpu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Rydym yn falch y bydd cefnogaeth gan ein chwaraewyr yn ariannu’r ffensys i amddiffyn y coed a’r gwrychoedd newydd a blannwyd fel rhan o brosiect Coed Cefn Gwlad, gan sicrhau y bydd cymaint â phosibl yn ffynnu.”

Estynnir gwahoddiad i dirfeddianwyr sy’n meddu ar dir o fewn ardal y prosiect i gysylltu gydag Awdurdod y Parc i fynegi eu diddordeb erbyn dydd Llun y 13eg o Fedi 2021. Am ragor o wybodaeth ynghylch ardal y prosiect a manylion cyswllt ewch i wefan Awdurdod y Parc.

 

Nodyn i Olygyddion

  1. Ynglŷn â Choed Cadw, y Woodland Trust yng Nghymru:Yr elusen cadwraeth coetir fwyaf yn y DU yw’r Woodland Trust. Mae ganddo dros 500,000 o gefnogwyr. Mae am weld DU yn llawn coedwigoedd a choed brodorol ar gyfer pobl a bywyd gwyllt. Mae gan yr Ymddiriedolaeth dri nod allweddol:
    • Amddiffyn coetir hynafol, sy’n brin, yn unigryw ac yn anadferadwy,
    • Adfer coetir hynafol sydd wedi’i ddifrodi, gan ddod â darnau gwerthfawr o ein hanes naturiol yn ôl yn fyw,
    • Plannu coed a choedwigoedd brodorol gyda’r nod o greu tirweddau gwydn i bobl a bywyd gwyllt.

    Wedi’i sefydlu ym 1972, erbyn hyn mae gan y Woodland Trust dros 1,200 o safleoedd dan ei gofal sy’n cwmpasu oddeutu 29,000 hectar. Mae’r rhain yn cynnwys dros 100 o safleoedd yng Nghymru, gyda chyfanswm arwynebedd o 2,987 hectar (7,155 erw). Mae mynediad i’w goedwigoedd am ddim, felly gall pawb elwa o goedwigoedd a choed.

    Mae enw Cymraeg yr Ymddiriedolaeth, “Coed Cadw”, yn hen derm Cymraeg, a ddefnyddir mewn deddfau canoloesol i ddisgrifio coetir gwarchodedig neu gadwedig.

  2. Am ragor o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad cysylltwch â Ioan Gwilym, Swyddog Cyfathrebu ar ioan.gwilym@eryri.llyw.cymru neu 07900267506