Mae Eryri wedi ysbrydoli artistiaid o bob math ers cenedlaethau drwy ysgogi cwestiynau, darganfod a meddwl am y gorffennol, y presennol a dyfodol y Parc.

Eleni mae Parc Cenedlaethol Eryri’n dathlu 70 mlynedd ers ei sefydlu ac i nodi’r garreg filltir hon mae artistiaid sy’n gweithio mewn amrywiol gyfryngau wedi eu comisiynu i ddathlu Eryri a’i rhinweddau arbennig yn greadigol ar wefan newydd gyda map rhithiol o’r ardal.

Comisiynwyd bardd Cenedlaethol Cymru Ifor ap Glyn i ysgrifennu cerdd ar gyfer y dathliad ac yna ymatebodd artistiaid amrywiol i’r gerdd honno a rhinweddau’r Parc. Yn eu plith paentiad gan Lisa Eurgain Taylor, giât gan Joe Roberts, gosodiad celf amgylcheddol gan Tim Pugh; Cân gan Owain Roberts ac Eve Goodman; Ffilm Ddawns gan Angharad Harrop a Helen Wyn Pari. Bydd yr artist Miriam Jones hefyd yn creu baton i fynd ar daith o Ogledd Eryri i’r De.

Mi fydd y map rhithiol yn gyfle edrych nol ar waith celf hanesyddol wedi ei guradu gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mi fydd ysgolion a cholegau’r ardal yn cynnal gweithdai a phrosiectau er mwyn meithrin artistiaid y dyfodol a mi fydd rhain hefyd yn arddangos ar y map, gyda gweithdai rhithiol gan rai o artistiaid y prosiect yn cael eu cyflwyno gan Pontio.

Yn ogystal a hyn mi fydd galwad agored ar gyfer artistiaid a’r cyhoedd i ychwanegu eu gwaith eu hunain ar y map.

Deunyddiau digidol ar gael: cyfweliadau fideo byr gyda phob artist, ffilm ddawns Angharad Harrop  a Helen Wyn Pari. Ffilm o ddarlleniad cerdd Ifor ap Glyn. Fideo o gân Owain Roberts ac Eve Goodman. Delweddau o ansawdd uchel o waith Joe Roberts, Lisa Eurgain Taylor a Tim Pugh. Mi fydd lluniau o’r artistiaid yn gweithio ar leoliad hefyd ar gael. Mae fersiynau wedi eu isdeitlo yn Saesneg ar gael o bob ffilm.

Dyddiadau pwysig
1af o Hydref: Lansiad y wefan
4-8fed o Hydref: Gweithdau creadigol amrywiol ar gyfer ysgolion Eryri gyda Ifor ap Glyn, Angharad Harrop, Helen Wyn Pari, Mared Elliw Hughes a Lisa Eurgain Taylor
4ydd o Hydref: Gweithdy celf amgylcheddol gyda Tim Pugh ar gyfer staff a gwirfoddolwyr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
11-18fed o Hydref: Taith dathlu 70 Eryri
8fed o Hydref: Gosod giât Joe Roberts yn Llanberis
11fed o Hydref: Perfformiad byw 8yb gan ddisgyblion Ysgol Aberconwy wedi eu hyfforddi gan ddawnswraig y prosiect Angharad Harrop ar ddechrau’r daith
18fed o Hydref: Penblwydd swyddogol Parc Cenedlaethol Eryri

Diwedd

Nodyn i Olygyddion

Cysylltiadau Defnyddiol:
Swyddog Cyfathrebu Gwasanaethau Corfforaethol Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: Ioan.gwilym@eryri.llyw.cymru
Cyfanwaith y dathliadau, Pennaeth Ymgysylltu Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: Helen.pye@eryri.llyw.cymru
Ar gyfer cysylltiadau’r artistiaid: Cyfarwyddwr y prosiect, Shari Llewelyn sharillew@me.com
Cwrs prosiect celf Grŵp Llandrillo Menai: Owain Prendergast Prende1o@gllm.ac.uk
Ar gyfer rhestrau’r ysgolion sy’n mynychu’r gweithdai: Mared Elliw Hughes, Ymgysylltydd Creadigol, Pontio m.hughes@bangor.ac.uk
Ar gyfer trafod celf hanesyddol Amgueddfa Genedlaethol Cymru: Andrew Renton Andrew.Renton@museumwales.ac.uk
Ar gyfer trafod celf hanesyddol Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Lona Mason Lona.mason@llgc.org.uk