Helpwch i ddiogelu a gwella un o hoff dirweddau Cymru fel Aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Rydym yn chwilio am Aelod o’r Awdurdod wedi ei apwyntio gan Lywodraeth Cymru. Bydd y broses recriwtio ar gyfer y rôl hon yn dechrau ar y 29ain o Fedi ac yn parhau am fis hyd y 21ain o Hydref. Bydd y manylion llawn ar gyfer y rôl a’r drefn ymgeisio ar wefan Llywodraeth Cymru o’r 29/09:

https://llyw.cymru/penodiadau-cyhoeddus?_ga=2.190286251.1226299422.1632226531-1852033620.1617694679

Mae gan yr Awdurdod 18 Aelod, 9 Cynghorydd Lleol a benodir gan Gyngor Gwynedd, 3 Cynghorydd Lleol a benodir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, a 6 aelod a benodir gan Lywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o ystod eang o gefndiroedd. Nid yw profiad o’r sector gyhoeddus yn angenrheidiol.

Byddwch yn ymrwymo i 44 diwrnod y flwyddyn, ac yn helpu i ddarparu arweiniad effeithiol gan dderbyn tâl o gydnabyddiaeth a chostau.

Dysgwch mwy am y rôl: archebwch sesiwn un i un gydag o’n haelodau presennol

Rydym yn cynnig sesiwn un i un ar-lein gyda nifer o’n haelodau presennol lle gallwch gael sgwrs anffurfiol i drafod y rôl ac i ddarganfod sut beth ydi i fod yn Aelod o’r Awdurdod gyda hwy. I archebu slot 15 munud dilynwch y ddolen isod:

Archebu slot