Mae hi’n flwyddyn i’r diwrnod ers lansio cynllun hynod lwyddiannus Llysgennad Eryri. Cynllun sydd wedi cyfoethogi deallusrwydd y diwydiant twristiaeth leol am yr hyn sy’n gwneud Eryri’n arbennig.

Dyma gynllun hyfforddiant ar-lein o safon uchel sy’n cynnig achrediad unigryw i unigolion neu i fusnesau – gyda’r bwriad i addysgu, ac i rannu negeseuon sy’n arwain at warchod yr hyn sy’n gwneud Eryri’n arbennig.  Mae’r modiwlau’n frith o gyfraniadau gan arbenigwyr ar draws y rhanbarth o waith celfyddydol gwreiddiol i destun ffeithiol.

Ers lansio, mae’r cynllun wedi mynd o nerth i nerth gyda dros 600 wedi cymhwyso fel Llysgenhadon Eryri.

I nodi’r garreg filltir hon, ac i sicrhau fod yr achrediad yn ymestyn i 2022, rydym wedi rhyddhau modiwl adnewyddu ar gyfer ein llysgenhadon. Mae’r modiwl hwn ar gyfer llysgenhadon sydd wedi cyrraedd eu cymhwyster Llysgennad Eryri Aur 2021 ac sydd yn awyddus i ailgymhwyso fel Llysgennad Eryri Aur 2022. Bydd yn gwrs ar wahân ar y wefan gyda’r teitl ‘Cwrs adnewyddu lefel aur Eryri 2021/2022’.

Fe fydd llysgenhadon efydd ac arian yn rhydd i ddilyn mwy o fodiwlau’r cynllun er mwyn cyrraedd y lefel nesaf er mwyn ennill achrediad ar gyfer 2022.

Dywedodd Catrin Glyn, Swyddog Partneriaeth Yr Wyddfa:

“Rydym yn falch iawn o gydweithio o dan faner Llysgennad Cymru a braf iawn yw gweld bod Awdurdodau eraill megis Cynghorau Sir Gwynedd, Conwy a Cheredigion, a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ymuno ac yn bwriadau lansio eu cynlluniau hwythau’r flwyddyn nesaf.

Mae’r modiwl adnewyddu yn gyfle i’n llysgenhadon dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am waith Awdurod y Parc Cenedlaethol a mireinio eu gwybodaeth am beth sy’n mynd ymlaen. Mae’n sicrhau fod y rhaglen yn parhau’n ddiddorol a chyfredol, ac yn sicrhau ein bod yn cadw safonau.

Gyda’r bwriad i ehangu ac esblygu’r ddarpariaeth, mae cynlluniau ar droed ar gyfer mwy o fodiwlau newydd ar gyfer 2022: Y Carneddau, a modiwl arbennig yn cynghori a chefnogi busnesau lletygarwch i leihau eu defnydd o blastig untro.

Hoffai’r Awdurdod ddiolch o galon i’r holl lysgenhadon sydd wedi rhoi eu hamser i’n cynorthwyo i warchod Rhinweddau Arbennig y Parc Cenedlaethol. Mae eu cymhelliant a’u hymroddiad yn amhrisiadwy.

Nodyn i Olygyddion

1. Gwefan Llysgennad Eryri

2. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Ioan Gwilym, Swyddog Cyfathrebu Gwasanaethau Corfforaethol APCE ar 01766 772253 / 07900267506 neu ioan.gwilym@eryri.llyw.cymru