Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cymeradwyo cynnig i nodi pwysigrwydd statws Dydd Gŵyl Dewi.
Mae hyn yn dilyn arferion tebyg yn y gwledydd Celtaidd eraill er mwyn dathlu diwrnod cenedlaethol eu nawddsaint.
Yn dilyn ymgynghoriad gyda staff, ar y 1af o Fawrth mi fydd staff Yr Awdurdod yn derbyn diwrnod ychwanegol o wyliau i nodi’r achlysur.
Dywedodd Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:
“Gan fod mis Mawrth yn adeg tawelach i’r Awdurdod nag arfer gyda safleoedd masnachol wedi cau neu yn rhedeg ar isafswm oriau a staff, bychain iawn, os o gwbwl yr ydym yn rhagweld côst hyn i’r Awdurdod.
Derbyniodd y staff y diwrnod o wyliau ychwanegol y llynedd oherwydd eu gwaith caled dros gyfnod y pandemig ac rydym yn teimlo y dylai r’un fath ddigwydd eto eleni”.