Mae Prosiect Nos ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn falch o gydweithio gyda pob un o’r tirweddau dynodedig yng Nghymru er mwyn cyflwyno nifer o ddigwyddiadau byw ac ar-lein ar draws y wlad.

Gyda’n gilydd mae pob Parc Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn gweithio’n galed er mwyn codi ymwybyddiaeth am lygredd golau a’r ffyrdd yr ydym yn gweld y sêr ond yn ogystal a hyn yn y ffyrdd y gall effeithio ar ein hiechyd ac ar fywyd gwyllt.

Dros 8 diwrnod yr wŷl rhwng y 19eg a 27ain o Chwefror mi fyddwn ni’n teithio o gwmpas tirweddau dynodedig Cymru er mwyn deall mwy am yr hyn sy’n mynd ymlaen i warchod ein Awyr Dywyll a’r ffyrdd y gallwch chi helpu.

Dywedodd Dani Robertson Swyddog Awyr Dywyll Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

“Mae’r ymgyrch i warchod ein Awyr Dywyll yn hanfodol bwysig yn y frwydr yn erbyn llygredd golau a newid hinsawdd yn ogystal â gwarchod ein bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol trwy ein cysylltiadau â’n hanes amaethyddol a morwrol.

Mae tymor Awyr Dywyll fel arfer yn rhedeg o dymor yr Hydref at y Gwanwyn ond mi fydd y rhan fwyaf o’r digwyddiadau ar-lein fel bod pawb yn gallu eu mwynhau a dysgu mwy. Rydym yn gobeithio y bydd yr Wythnos Awyr Dywyll Cymru cyntaf erioed yn ysbrydoli mwy o bobl i chwarae eu rhan.”

Gallwch ganfod rhestr llawn o ddigwyddiadau’r wythnos ar wefan wefan Profi’r Tywyllwch Cymru.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Ioan Gwilym, Swyddog Cyfathrebu Gwasanaethau Corfforaethol yr Awdurdod:

Ioan Gwilym
ioan.gwilym@eryri.llyw.cymru