I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, mae Yr Ysgwrn yn falch o gyhoeddi diwrnod cyffrous o weithgareddau creadigol a diwylliannol ar 1 Mawrth, ynghyd ag Noson Sgratsh arbennig gyda’r nos. Mae’r digwyddiadau’n cael eu cynnal gyda chymorth hael Gronfa Cymorth Peilot Dydd Gŵyl Dewi 2026. 

Wedi’i leoli yng nghartref hanesyddol y bardd Hedd Wyn, bydd YrYsgwrn yn croesawu ymwelwyr am ddiwrnod llawn gweithgareddau sy’n dathlu diwylliant, iaith a chreadigrwydd Cymru mewn awyrgylch cynnes a chymunedol. 

Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi: 10:00–15:00 

O 10 y bore tan 3 o’r pnawn, croesawir ymwelwyr i ymuno mewn amrywiaeth o weithgareddau hwyliog ac ysbrydoledig: 

  • Crefftau gyda Eirian Muse – gweithdai creadigol addas i bob oed. 
  • Sesiwn gerddoriaeth gyda Huwcalale – cerddoriaeth fywiog a rhyngweithiol. 
  • Barddoniaeth gyda Mali Elwy – sesiynau barddas a pherfformiadau gwefreiddiol. 
  • Perfformiad gan Rhiannon O’Connor (Y Llais) – canu byw mewn awyrgylch arbennig. 
  • Teithiau tywys o amgylch y tŷ hanesyddol – cyfle i ddysgu mwy am fywyd a threftadaeth Hedd Wyn. 

Mae’r diwrnod yn addo bod yn ddathliad cynnes a chymunedol o ddiwylliant a chreadigrwydd Cymru. 

Noson Sgratsh: 18:00–20:00 

Bydd y dathliadau’n parhau gyda’r nos gyda Noson Sgratsh, lle bydd actorion a thramodwyr lleol yn ysgrifennu, cyfarwyddo a pherfformio darnau newydd sbon. Bydd y noson yn cynnig adloniant gwreiddiol, cyfoes a difyr i’r gynulleidfa.