Gyda diwedd Prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd LIFE yn agosau, bydd cynhadledd arbennig yn cael ei gynnal ar safle Prifysgol Bangor ym mis Ebrill er mwyn dathlu llwyddiannau’r prosiect hyd yn hyn, ac ysbrydoli eraill i barhau â’r gwaith o ddiogelu’r cynefin arbennig hwn ar gyfer y dyfodol.
Gyda’r prosiect bellach yn ei hwythfed flwyddyn, bydd y gynhadledd yn dathlu llwyddiannau’r prosiect, y gwersi a ddysgwyd a sut fydd y prosiect yn ymdrechu i sicrhau fod yr holl waith da’n parhau trwy ddatblygu partneriaethau a thargedau tymor hir. Bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar themâu penodol y prosiect sef gwaredu planhigion ymledol, pori cadwraethol, adfer coedlannau hynafol ac ymgysylltu. Yn ystod y gynhadledd bydd mynychwyr yn cymryd rhan mewn gweithdai lle gallant ddylanwadu ar y camau nesaf er mwyn adeiladu ar lwyddiannau prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd LIFE. Er mwyn gweld rhai o lwyddiannau’r prosiect allan yn y maes bydd cyfle i fynychwyr fwynhau ymweliadau maes ar drydydd diwrnod y gynhadledd.
Liz Saville Roberts, yr Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd fydd yn agor y gynhadledd, ac i ddilyn ceir cyflwyniadau gan siaradwyr gwadd arbennig. Bydd Ian McDaid o Barc Cenedlaethol Glenveagh yn yr Iwerddon yn trafod rôl technoleg fodern wrth fonitro lledaeniad rhododendron; Carwyn Graves, awdur llyfr TIR: The Story of a Welsh Landscape yn trafod y cysylltiad rhwng treftadaeth ddiwylliannol ac ecoleg; a bydd cynrychiolydd o Gynghrair Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru’n rhannu cefndir, canfyddiadau ac argymhellion Adroddiad Cyflwr Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru.
Bydd y gynhadledd, a gynhelir dros gyfnod o dri diwrnod, wedi ei rhannu’n dair rhan sef Prif Gynhadledd a Gweithdai, Cinio Rhyngweithio a Theithiau Maes. Bydd hyn yn rhoi’r hyblygrwydd i fynychwyr benderfynu a ydynt am fynychu’r Brif Gynhadledd yn unig, neu fod yn rhan o’r gweithgareddau ychwanegol.
Meddai Jonathan Cawley, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:
“Gyda diwedd cyfnod prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd LIFE ar y gorwel, mae’r gynhadledd hon yn un hynod bwysig. Bydd yn fodd o sicrhau gwaddol i’r prosiect trwy rannu gwybodaeth a phrofiadau, a dathlu llwyddiannau a, gobeithio, ysbrydoli eraill i barhau â’r gwaith a gychwynnwyd trwy’r prosiect er mwyn diogelu’r cynefin hynod bwysig hwn.”
Meddai Liz Saville Roberts, AS Dwyfor Meirionnydd a phrif siaradwraig y gynhadledd:
“Mae Cymru’n parhau i fod yn un o gadarnleoedd y coedwigoedd glaw tymherus sy’n unigryw i rannau gorllewinol ynysoedd Prydain, sydd â chysylltiad dwfn â threftadaeth naturiol ein cenedl. Mae gennym felly gyfrifoldeb domestig a byd-eang i sicrhau ein bod yn gofalu am y cynefinoedd hyn a’u bod yn ffynnu. Mae prosiectau fel Coedwigoedd Glaw Celtaidd LIFE wedi gosod sylfaen ar gyfer gweithredu pellach, tra’n dod â buddion economaidd-gymdeithasol sylweddol i rannau o Gymru wledig. Mae’n bwysig ein bod yn awr yn adeiladu ar y momentwm a grëwyd trwy’r prosiect er mwyn cynorthwyo i gyflawni targedau uchelgeisiol er mwyn diogelu natur yng Nghymru a gwledydd eraill y DU.”
Mae tocynnau’r Gynhadledd yn awr ar werth a byddant yn cael eu gwerthu ar sail y cyntaf i’r felin. Gellir archebu lle i fynychu’r gynhadledd ar wefan Celtic Rainforests LIFE End of… | Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru, lle ceir hefyd ragor o fanylion ynghylch y siaradwyr gwadd, y cinio rhyngweithio a’r teithiau maes.