Llwyddodd Cyngor Cymuned Bro Machno i sicrhau grant trwy Gronfa Cymunedau Eryri er mwyn gwella seilwaith cymunedol. Gyda ffocws ar hygyrchedd a chyfleustra technolegol, mae’r grant wedi hwyluso trawsnewid toiledau cyhoeddus ac yn hybu cysylltedd yn yr ardal.
Agwedd allweddol o’r prosiect oedd uwchraddio cyfleusterau toiledau cyhoeddus y pentref i sicrhau cynhwysiant i holl aelodau’r gymuned. Mae gosod pwyntiau mynediad RADAR yn rhoi darpariaeth i unigolion ag anableddau, yn ogystal â hyrwyddo hygyrchedd. Hefyd, mae integreiddio dulliau talu digyswllt, gan gynnwys cerdyn ac Apple Pay, yn symleiddio’r broses, ac yn cynnig cyfleustra i drigolion ac ymwelwyr.
Mae’r dyraniad grant hefyd wedi ymestyn i wella cysylltedd digidol o fewn y gymuned. Gan gydnabod pwysigrwydd cadw mewn cysylltiad yn yr oes ddigidol sydd ohoni, mae’r cyngor wedi cymryd camau rhagweithiol i fynd i’r afael â heriau cysylltedd. Trwy osod Wi-Fi cymunedol am ddim, gall trigolion ac ymwelwyr bellach fwynhau mynediad i’r rhyngrwyd, gan hwyluso cyfathrebu, mynediad at wybodaeth, a gweithgareddau sy’n cael eu gyrru gan gysylltedd.
Mae’r gwaith uwchraddio nid yn unig yn rhoi darpariaeth ar gyfer anghenion uniongyrchol preswylwyr ond hefyd yn cyfrannu at wella ansawdd bywyd cyffredinol a phrofiad ymwelwyr. Wrth i’r mentrau hyn ddwyn ffrwyth, gall cymuned Bro Machno edrych ymlaen at elwa o fanteision gwell seilwaith, hygyrchedd a chysylltedd. Mae’r prosiectau â ariennir gan Gronfa Cymunedau Eryri yn destament i’r ymdrechion cydweithredol sydd wedi’u hanelu at greu cymuned fywiog a chynhwysol i bawb ffynnu ynddi.