Mewn menter arloesol newydd mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol a Cadwch Gymru’n Daclus yn falch o gyhoeddi cynhadledd Hinsawdd Ieuenctid COPA 1, y cyntaf ar Yr Wyddfa fydd yn cael ei gynnal ym mis Medi 2024.

Mae’r digwyddiad cyffrous hwn yn rhan o brosiect Yr Wyddfa Di-Blastig, gyda’r nod o fynd i’r afael â llygredd plastig untro trwy syniadau arloesol y genhedlaeth nesaf.

Bydd COPA1 yn cynnal y gynhadledd ieuenctid gyntaf erioed ar gopa’r Wyddfa a bydd cyfle i bobl ifanc ddod ynghyd ag arbenigwyr i lunio’r prosiect Di Blastig.

Mae gwahoddiad i ddisgyblion o wahanol oedran i gyflwyno eu ‘Syniadau Mawr’ ar ffurf fideo yn seiliedig ar themâu sy’n ymwneud â chyfathrebu, polisi ac arloesedd. Caiff y grwpiau fydd ar y rhestr fer gyflwyno eu syniadau mewn gweithdai deor ar gopa’r Wyddfa a bydd yr enillwyr o bob categori yn mynd ymlaen i droi eu syniadau i realiti drwy grant datblygu o £1,500.

 

Dywedodd Alec Young Swyddog Yr Wyddfa Ddi-Blastig Awdurdod y Parc Cenedlaethol:

“Nid digwyddiad yn unig ydi COPA1; mae’n daith tuag at stiwardiaeth amgylcheddol a byw’n gynaliadwy. Drwy ymgysylltu gyda phobl ifanc, nod COPA1 yw gadael etifeddiaeth barhaol tuag at newid gadarnhaol yn ardal yr Wyddfa a thu hwnt”.

 

Dywedodd Tim Wort, Rheolwr Addysg Cadwch Gymru’n Daclus:

“Mae mynd i’r afael â llygredd yn gofyn i fod yn arloesol a syniadau newydd. Dyma pam yr ydym yn gyffrous i gefnogi COPA1, menter heriol i ysgogi meddyliau ifanc gyda her arloesol. Mae’n gam cychwyn ar gyfer gweithredu, perchnogaeth ac atebion a all wirioneddol wneud gwahaniaeth”

 

Bydd COPA1 yn rhoi perchnogaeth i bobl ifanc lunio dyfodol y mynydd. Drwy sefydlu’r llwyfan unigryw hwn bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Cadwch Gymru’n Daclus yn anelu at ysgogi llysgenhadon hinsawdd y dyfodol ac ysbrydoli newid bositif yn Eryri.

 

Nodiadau i Olygyddion:

  1. Am ymholiadau addysg a mwy o wybodaeth am y gystadleuaeth cysylltwch â copa@eryri.llyw.cymru
  1. Am fwy o wybodaeth am brosiect Di Blastig Yr Wyddfa ewch i wefan yr Awdurdod
  1. Ar gyfer ymholiadau’r wasg cysylltwch â Ioan Gwilym, Pennaeth Cyfathrebu’r Awdurdod ar 01766 772253 / 07900267506 neu ioan.gwilym@eryri.llyw.cymru