Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i gefnogi cynllun Prynu i Osod Cyngor Gwynedd, a Swyddog Tai Cymunedol ym Mro Machno.

Yng nghyfarfod Pwyllgor Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri heddiw, cytunwyd i’r Awdurdod gefnogi cynllun Prynu i Osod Cyngor Gwynedd trwy ariannu’n rhannol, bryniant hyd at 5 eiddo preswyl fel y dônt ar werth ar y farchnad agored. Wedi cyflawni unrhyw waith adnewyddu angenrheidiol, byddai’r eiddo’n cael eu gosod gan Gyngor Gwynedd am rent fforddiadwy i bobl leol, gydag Adra yn reoli’r eiddo.

Dan y cynllun arloesol Prynu i Osod, mae Cyngor Gwynedd wedi prynu 20 eiddo, ac mae bwriad i brynu 80 yn rhagor dros y tair blynedd nesaf.  Bydd y cartrefi hyn yn cael eu gosod i unigolion lleol sy’n bodloni meini prawf Tai Teg. Mae’r cynllun hwn yn rhan o Gynllun Gweithredu Tai ehangach y Cyngor, sy’n anelu at ddarparu dros 1000 o gartrefi i bobl Gwynedd yn y blynyddoedd i ddod.

Daw’r arian i gyfrannu tuag at y pryniannau o gronfa symiau cymudo’r Awdurdod. ‘Symiau cymudo’ yw’r term a ddefnyddir am gyfraniad ariannol a dderbynnir gan Awdurdod Cynllunio Lleol gan ddatblygwyr tai pan nad ydynt yn darparu tŷ fforddiadwy ar safle. Yn hytrach caiff yr arian ei ddefnyddio ar gyfer cynlluniau adeiladu neu ddarparu tai fforddiadwy mewn lleoliad arall. Mae yna ddisgwyliad ar yr Awdurdod i wneud y defnydd gorau o’r symiau a dderbyniwyd er mwyn cynorthwyo gyda darparu tai fforddiadwy i gwrdd ag angen lleol o fewn ardal y Parc Cenedlaethol.

Heddiw, roedd yr Awdurdod hefyd yn falch o allu cefnogi cais gan Fenter Iaith Conwy ar ran Partneriaeth Tai Penmachno am gymorth i ariannu swydd Swyddog Tai Cymunedol rhan amser. Mae cymuned Bro Machno yn wynebu heriau dwys yn ymwneud â fforddiadwyedd a mynediad i’r stoc dai lleol, ac yn sgil hynny mae hyfywedd yr iaith Gymraeg yn yr ardal dan fygythiad. Sefydlwyd y bartneriaeth gymunedol i fynd i’r afael â phryderon y gymuned ynghylch y sefyllfa dai. Dan arweinyddiaeth Menter Iaith Conwy, bydd y Swyddog Tai Cymunedol yn craffu ar opsiynau i alluogi’r gymuned i brynu eiddo gwag at ddefnydd lleol. Mae’r model o gymunedau’n perchnogi tai yn dod yn fwy cyffredin, ac yn cael eu hystyried fel modd ymarferol o ymateb i’r heriau sy’n eu hwynebu.

Meddai’r Cynghorydd Elwyn Edwards, Cadeirydd Pwyllgor Cynllunio a Mynediad Awdurdod y Parc Cenedlaethol:

“Fel Awdurdod rydym yn hynod falch o allu cefnogi’r cynlluniau pwysig yma i ddod ag eiddo preswyl yn ôl i ddeiliadaeth leol, llawn amser. Mae cynlluniau o’r fath yn hanfodol i helpu i ddiogelu iaith a diwylliant ein cymunedau ar gyfer y dyfodol, a hyfywdra economi wledig Eryri”.

Meddai’r Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet dros Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd:

Dwi’n hynod falch o glywed am y gefnogaeth ariannol ychwanegol gan Parc Cenedlaethol Eryri tuag at gynllun Prynu i Osod y Cyngor.

Nid brics a morter yn unig yw tai fforddiadwy, ond rhaff achub i gadw ein cymunedau yng Ngwynedd yn fyw ac yn ffyniannus. Trwy gyfuno adnoddau fel hyn gallwn ni fynd gam ymhellach wrth gefnogi cymunedau mewn ardaloedd lle mae nifer uchel iawn o bobl Gwynedd wedi cael eu prisio allan o’u tai a’u cynefin, fel y rheiny yn Eryri.

Meddai Meirion Davies, Cyfarwyddwr Datblygu Menter Iaith Conwy:

“Rydym yn falch iawn o gael cefnogaeth Parc Cenedlaethol Eryri i’r cynllun yma. Rydym wedi bod yn gweithio efo cymuned Penmachno ers blynyddoedd i gryfhau’r defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned. Ond mae pobl leol yn teimlo’n gynyddol fod y sefyllfa dai yn tanseilio’r iaith. Ein gobaith trwy gyflwyno’r cais yma i’r Parc ydi rhoi cymhwysedd ychwanegol i’r gymuned i ymafael â’r broblem a dechrau perchnogi eiddo yn yr ardal. Y gobaith yw fydd hyn yn cryfhau sefyllfa’r Gymraeg trwy leihau’r nifer o dai gwyliau a thai gwag sydd oddeutu 37% o stoc yr ardal a chynnig cyfleoedd i bobl ifanc i fyw yno.”

Meddai Owen Davis a Siân Rhun Morris ar ran Partneriaeth Tai Fforddiadwy Penmachno:

“Mae’r syniad o gyflogi Swyddog Tai Cymunedol i weithio gyda’r gymuned leol ym Mhenmachno yn un cyffrous iawn, a hynny mewn plwyf lle mae bron i 40% o’r stoc tai yn ail-gartrefi, tai gwyliau neu’n wag.

Byddai galluogi’r gymuned i brynu tai i’w gosod yn gyfraniad ymarferol a gwerthfawr dros ben i sicrhau cartrefi i bobl leol na allant gystadlu ar y farchnad agored.

Rydym ni, fel grŵp, yn cefnogi’r cais yma yn galonnog.”

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion

  1. Nid oes eiddo penodol wedi eu hadnabod i’w prynu gyda’r arian eto. Mae cymeradwyaeth yr Awdurdod i ddyrannu’r arian at y pwrpas yma yn rhoi swyddogion Cyngor Gwynedd mewn sefyllfa gryfach i ymateb yn gyflym pan ddaw eiddo addas ar y farchnad.
  2. Mae’r drefn o dderbyn taliadau ‘symiau cymudo’ gan ymgeiswyr cynllunio yn gyffredin ymhlith Awdurdodau Cynllunio ledled y wlad.
  3. Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch y cynlluniau yn yr adroddiad gan y Swyddog Polisi Cynllunio (tudalen 35) yma.
  4. Am ragor o wybodaeth ynghylch cynllun Prynu i Osod Cyngor Gwynedd neu i drefnu cyfweliad gyda chynrychiolydd o Gyngor Gwynedd, cysylltwch â Lowri Nansi Roberts ar lowrinansiroberts@gwynedd.llyw.cymru
  5. Am ragor o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad ynghylch cynllun Partneriaeth Tai Fforddiadwy Penmachno cysylltwch â Meirion Davies, Cyfarwyddwr Datblygu Menter Iaith Conwy ar meirion@miconwy.org
  6. Os hoffech wneud cais am gyfweliad gyda chynrychiolydd o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, cysylltwch gyda Gwen Aeron Edwards, Swyddog Cyfathrebu Cynllunio a Rheolaeth Tir ar gwen.aeron@eryri.llyw.cymru neu 01766 770 274