Yng Nghyfarfod yr Awdurdod heddiw, etholwyd Tim Jones fel Cadeirydd.

Mae Tim Jones wedi bod yn aelod Llywodraeth Cymru o’r Awdurdod ers 4 mlynedd ac wedi bod yn is-Gadeirydd ers 8 mis. Yn ogystal â hyn mae ganddo dros 25 mlynedd o brofiad rheoli gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a’r cyrff blaenorol.

 

Dywedodd Tim Jones, Cadeirydd newydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y cyfle i arwain Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri dros y blynyddoedd nesaf. Mae yna heriau adnoddau ariannol ac argyfyngau natur a newid hinsawdd yn ein hwynebu ond mae Eryri yn le mor unigryw ac rwy’n edrych ymlaen at gyfrannu at yr hyn sy’n ei gwneud yn rhan mor arbennig o’r byd. Rwyf hefyd yn awyddus i roi fy holl gefnogaeth i staff ac aelodau i sicrhau bod y Parc Cenedlaethol yn le braf i bobl fyw a’i fwynhau”.

 

Croesawyd y Cynghorydd Einir Wyn Williams (Gerlan) fel aelod newydd ar ran Cyngor Gwynedd wedi i’r Cynghorydd Kim Jones (Llanberis) adael Yr Awdurdod.

Dyma oedd Cyfarfod olaf gyda’r Awdurdod i Tracey Evans hefyd wrth i’w chyfnod fel Aelod Llywodraeth Cymru ddod i ben. Diolchwyd i’r ddwy am eu cyfraniadau yn ystod eu gwasanaeth.

 

Nodiadau i Olygyddion:

Am ymholiadau’r wasg cysylltwch gyda Ioan Gwilym, Pennaeth Cyfathrebu’r Awdurdod ar 01766 772253 / 07900267506 neu gwilym@eryri.llyw.cymru