Bydd Wythnos Awyr Dywyll Cymru, sy’n cael ei gynnal am y trydydd flwyddyn, rhwng y 9fed a’r 18fed o Chwefror, 2024.

Mae’r fenter ar y cyd yma’n dod a’r wyth tirwedd dynodedig yng Nghymru at ei gilydd, gan uno Parciau Cenedlaethol Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro, yn ogystal a Ardaloedd o Harddwch Naturiol: Ynys Môn, Pen Llŷn, Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Gŵyr, a Dyffryn Gwy.

Prif nôd Wythnos Awyr Dywyll Cymru yw codi ymwybyddiaeth am rôl hanfodol awyr dywyll mewn bioamrywiaeth, iechyd dynol, cadwraeth egni, diogelu ein treftadaeth, ac wrth gwrs seryddiaeth. Mi fydd yr wythnos yn cynnwys amrywiaeth o ddigwyddiadau ar-lein ac ar safleoedd ar draws yr wyth lleoliad gan sicrhau cyfleoedd i bawb ymuno.

Mae gan Cymru’r ganran uchaf o warchodfeydd awyr dywyll yn y byd a Pharc Cenedlaethol Eryri yw’r Warchodfa Awyr Dywyll fwyaf ym Mhrydain ac yn ddiweddar sicrhaodd Ynys Enlli ei statws fel yr unig Noddfa Awyr Dywyll yn Ewrop.

Mae tirweddau dynodedig Cymru yn mynd i’r afael â llygredd golau, un bwlb ar y tro. Mae newid i oleuadau eco-gyfeillgar yn eich cartref yn ffordd wych o warchod y blaned, eich iechyd a’ch cyfrif banc!

 

Dywedodd Dani Robertson, Swyddog Awyr Dywyll Awdurdod y Parc Cenedlaethol:

“Nid mater o warchod harddwch naturiol yn unig yw diogelu ein hawyr dywyll; mae’n ymrwymiad i warchod bioamrywiaeth, iechyd a lles ein pobl a’n cysylltiad i’r bydysawd. Mae Wythnos Awyr Dywyll Cymru’n gyfle unigryw i bawb ddysgu mwy am y rhyfeddodau sydd uwch ein pennau, pwysigrwydd ein awyr dywyll ac ymuno iddathlu treftadaeth ein tywyllwch.”

 

Mi fydd digwyddiadau’r wythnos yn cael eu rhestru ar wefan swyddogol Profi’r Tywyllwch Cymru gan ddarparu canllaw llawn ar gyfer y mynychwyr. Ar gyfer gwybodaeth bellach, diweddariadau a mewnweliadau am ryfeddodau ein awyr dywyll, dilynwch Prosiect Nos ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ymunwch â ni wrth i ni dreiddio i ryfeddodau’r bydysawd a dathlu’r murluniau seryddol sy’n addurno awyr dywyll Cymru.

 

 

Nodiadau i Olygyddion:

  1. Am ganllawiau goleuo dwyieithog ar-lein a/neu gopïau caled, cysylltwch a’n Swyddog Awyr Dywyll; robertson@eryri.llyw.cymru
  1. Am fwy o wybodaeth am Wythnos Awyr Dywyll ewch i wefan Profi’r Tywyllwch Cymru.
  1. Am ymholiadau’r wasg cysylltwch gyda Ioan Gwilym, Pennaeth Cyfathrebu’r Awdurdod ar 01766 772253 / 07900267506 neu gwilym@eryri.llyw.cymru