Mae palmantu cerrig yn sgil arbenigol a ddefnyddir i adeiladu llwybrau cadarn a gwydn yng nghefn gwlad. Gan fod prinder unigolion a chontractwyr tirlunio sy’n meddu ar sgiliau palmantu mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi dod ynghyd ag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru i drefnu cwrs hyfforddiant palmantu arbennig.

Mae llwybrau cerrig yn gyffredin yn ucheldiroedd Eryri. Yn ogystal â darparu llwybr cadarn a gwydn i gerddwyr, maent hefyd yn gweddu tirwedd garw’r ardal. Trwy ymgorffori strwythurau carreg pwrpasol fel cwlfer neu dorddwr mewn mannau strategol gellir rheoli llif dŵr ac erydiad tir.

Er mwyn galluogi datblygiad a thwf rhaglenni llwybrau, mae’r tri mudiad wedi dod ynghyd i drefnu hyfforddiant arbennig yn y grefft o balmantu cerrig. Mae’r cwrs ar gael i unigolion neu fusnesau sydd â phrofiad mewn gwaith carreg. Bydd cwblhau cwrs lefel sylfaenol yn eu cymhwyso i gwblhau cwrs hyfforddiant pellach lefel uwch sy’n edrych ar strwythurau arbenigol fel pont garreg, cwlfer a thorddwr.

Bydd cyfranogwyr yn derbyn nawdd grant am fynychu’r cwrs ac yn derbyn ad-daliad am eu costau teithio. Cynhelir yr hyfforddiant ar safle Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yng Nghraflwyn, Beddgelert ym mis Chwefror a Mawrth, gyda’r hyfforddiant yn cael ei ddarparu gan weithwyr llwybrau profiadol.

Meddai Hywel Jones, Swyddog Prosiectau Mynediad Awdurdod y Parc Cenedlaethol:

“Bydd y cwrs yma’n cynnig cymhwysiad pellach ac yn ac yn agor mwy o gyfleoedd i gontractwyr lleol gael gwaith yng nghefn gwlad Eryri. Yn ogystal â rhoi hwb i’r economi leol bydd hyn yn ei dro yn cyfrannu at gynnal cymunedau byw a llewyrchus.”

Meddai Simon Rogers, Rheolwr Cefn Gwlad Eryri a’r Gogarth Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru:

“Mae ein timau llwybrau yn falch o’u crefft ac yn awyddus i rannu eu gwybodaeth â gweithwyr cerrig eraill. Drwy fuddsoddi yn y sgiliau hyn yn lleol, byddwn yn sicrhau y gall pobl fwynhau tirweddau trawiadol Eryri am flynyddoedd lawer i ddod.”

Meddai Paul Williams, Uwch Swyddog Rheolaeth Tir Cyfoeth Naturiol Cymru:

Gall erydiad llwybrau ddifrodi’r cynefinoedd arbennig yr ydym yn eu rheoli ar ein Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol, ac mi fydd yr hyfforddiant yma’n werthfawr iawn i sicrhau bod y sgiliau ar gael yn lleol i’n helpu i’w gwarchod fel rhan o’n gwaith i daclo’r argyfwng hinsawdd a natur.”

Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar y cwrs, a bydd yn rhaid cyflawni’r cwrs sylfaenol er mwyn mynychu’r cwrs uwch. Er mwyn mynegi diddordeb mewn mynychu dylid cwblhau ffurflen gais a’i ddychwelyd erbyn dydd Gwener yr 16eg o Chwefror 2024. Ceir hyd i fanylion ynghylch y cwrs a’r gofynion mynychu, ynghyd â ffurflen i fynegi diddordeb ar wefan Awdurdod y Parc yma.

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion

  1. Trwy gyflawni’r cwrs sylfaenol ac uwch bydd cyfranogwyr yn gymwys i gael ychwanegu eu henwau at restr safonol o gontractwyr y 3 sefydliad.
  2. Am ragor o wybodaeth cysylltwch gyda  Gwen Aeron Edwards, Swyddog Cyfathrebu Cynllunio a Rheolaeth Tir ar gwen.aeron@eryri.llyw.cymru neu 01766 770 274.