Yn dilyn cyfnod o gydweithio agos gydag Awdurdod y Parc Cenedlaethol ac Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, mae Comisiynydd y Gymraeg wedi argymell rhestr safonol o enwau llynnoedd Eryri. Yng nghyfarfod o Bwyllgor Awdurdod y Parc Cenedlaethol heddiw, pleidleisiwyd yn unfrydol o blaid arddel y rhestr safonol hon.

Nod y prosiect peilot yw ymchwilio i’r cyfoeth o enwau tirweddol hanesyddol sydd gennym o fewn ffiniau’r Parc Cenedlaethol fel eu bod ar gof a chadw, ac yn cael eu defnyddio yn eang, ar lafar gwlad, ar fapiau ac mewn print, er mwyn eu diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Y rhestr safonol o enwau llynnoedd Eryri yw’r gyntaf o’i math i gael ei hargymell gan Gomisiynydd y Gymraeg, gyda gwaith yn awr ar y gweill i safoni rhestr o enwau rhaeadrau a chopaon Eryri.

Wrth safoni’r rhestr bu Panel Safoni Enwau Lleoedd y Comisiynydd yn ystyried hanes, ystyr a tharddiad yr enwau. Yn ogystal, roedd y Panel yn rhoi  pwyslais arbennig ar ddefnydd lleol, ac mae ymgynghori ag unigolion neu arbenigwyr sydd â chysylltiad agos neu wybodaeth leol arbenigol wedi bod yn rhan greiddiol o’r broses. Roedd Wardeiniaid y Parc Cenedlaethol, er enghraifft, yn ffynhonnell werthfawr iawn o dystiolaeth. Daeth i’r amlwg fod nifer o’r enwau wedi eu camsillafu ar fapiau ers blynyddoedd mawr felly roedd y prosiect hwn yn gyfle i unioni hynny. Lluniwyd egwyddorion i gynorthwyo’r gwaith hefyd er mwyn sicrhau bod yr enwau yn cael eu trin yn gyson a sefydlu patrwm at ymdrechion safoni’r dyfodol. Mae gan y Panel ganllawiau safoni cenedlaethol i gefnogi’r gwaith safoni ac yn sgil y prosiect yma mae egwyddorion i ymdrin ag enwau tirweddol wedi eu hychwanegu atynt.

Mae Comisiynydd y Gymraeg eisoes wedi cynnal trafodaethau cychwynnol gyda’r Arolwg Ordnans er mwyn ceisio sicrhau bod y ffurfiau safonol hyn yn cael eu mabwysiadu wrth ddiweddaru mapiau neu gyhoeddiadau. Trwy gydweithio gyda’r AO fel corff sy’n gyfrifol am fapio daearegol ar ran Llywodraeth y DU, byddwn mewn sefyllfa gryfach i sicrhau fod enwau daearyddol hanesyddol Eryri’n parhau i gael eu defnyddio am ganrifoedd i ddod.

Meddai Naomi Jones, Pennaeth Treftadaeth Ddiwylliannol Awdurdod y Parc Cenedlaethol:

“Mae’r cyfoeth o enwau tirweddol ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn rhai o drysorau ein treftadaeth ddiwylliannol ac rydym yn hynod falch o ffrwyth ein cywaith gyda Chomisiynydd y Gymraeg a Phrifysgol Caerdydd i gyflwyno’r rhestr o enwau llynnoedd Eryri. Drwy argymell y rhestr safonol o enwau llynnoedd Eryri, mae’r Awdurdod yn sicrhau bod yr enwau hanesyddol hyn ar gof a chadw am genedlaethau i ddod ac yn cael eu defnyddio’n eang ar lafar gwlad.”

Meddai Dr Eleri James, Uwch Swyddog Isadeiledd ac Ymchwil Comisiynydd y Gymraeg:

“Mae hi wedi bod yn fraint gallu ymateb i gais y parc am arweiniad ynghylch sut orau i sillafu’r enwau pwysig hyn a sicrhau eu bod nhw wedi gallu elwa ar arbenigedd a phrofiad helaeth y Panel Safoni Enwau Lleoedd. Cyn y prosiect peilot hwn mae’r Comisiynydd wedi canolbwyntio ei ymdrechion ar gynnig cyngor am sut mae sillafu enwau dinasoedd, trefi a phentrefi Cymru – yr enwau hynny sy’n ymddangos ar arwyddion. Fydd dim llawer o’r enwau llynnoedd hyn yn ymddangos ar arwyddion fyth, felly mae’n fwy pwysig eto eu cofnodi’n gywir ar fap er mwyn eu cadw’n ddiogel i’r cenedlaethau i ddod.”

Meddai Dr Dylan Foster, Pennaeth Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd:

“Mae enwau lleoedd yn rhan o dreftadaeth pawb ac mewn oes ddigidol pan fo gwybodaeth yn cael ei rhannu ar-lein mewn amrantiad, mae cael ffurfiau safonol ar enwau o fudd i bawb. Mae prosiectau fel hyn hefyd yn tynnu sylw at gyfoeth ein tafodieithoedd a’n chwedloniaeth ar lawr gwlad, ac yn caniatáu inni rannu pob math o straeon am yr enwau sy’n rhan mor bwysig o hunaniaethau ein cymunedau.”

Ychwanegodd Pam Whitham, Rheolwr Datblygiad Strategol yr Arolwg Ordnans:

“Dros y blynyddoedd diweddar mae’r Arolwg Ordnans wedi cynyddu’n sylweddol y nifer o enwau Cymraeg a gofnodir o fewn y Bas Data Daearyddol Cenedlaethol ac ar ein nwyddau mapio. Gan amlaf bydd hyn yn golygu cynnwys y fersiynau Cymraeg a Saesneg o’r enw lle.

Gan fod miloedd o gwsmeriaid yn ddibynnol ar y data, gan gynnwys yr holl wasanaethau brys, mae’n hanfodol fod enwau cyffredin a ddefnyddir yn cael eu cofnodi’n gywir. Fel rhan o’n diweddariadau parhaus i’n bas data fe fyddwn yn ychwanegu’r enwau llynnoedd yn Eryri a gytunwyd arnynt.

Nid yw’r Arolwg Ordnans yn gyfrifol am newidiadau i enwau. Bydd unrhyw newidiadau i enwau neu ychwanegiadau a gyflwynir i’r Arolwg Ordnans i’w hychwanegu i fapiau yn cael eu hystyried gyda mewnbwn gan ffynonellau awdurdodol.”

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion:

  1. Mae gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol Grŵp Llywio Enwau Lleoedd. Swyddogaeth y grŵp yma yw trafod a chynghori ar ddefnydd yr Awdurdod o enwau lleoedd.
  2. Mae enwau lleoedd Eryri yn nodwedd arwyddocaol yn nhreftadaeth ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Eryri. Yn ôl Cynllun Eryri, “mae enwau Cymraeg yn dal ysbryd lleoedd, bywyd bob dydd, trafferthion, brwydrau a gogoniannau’r oesoedd”.
  3. Gellir gweld Canllawiau a Rhestr Enwau Lleoedd Comisynydd y Gymraeg trwy ddilyn y ddolen yma Enwau Lleoedd (comisiynyddygymraeg.cymru)
  4. Am ragor o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad cysylltwch efo Gwen Aeron Edwards, Swyddog Cyfathrebu Cynllunio a Rheolaeth Tir ar gwen.aeron@eryri.llyw.cymru neu 01766 770 238 / 07887452467.