Diolch i nawdd trwy brosiect ‘Ailwefru Mewn Natur’ BMW mewn partneriaeth â ‘National Parks UK’, bydd perchnogion tir yn ardal uchaf Afon Dyfrdwy’n elwa o waith i uwchraddio terfynau caeau i wrychoedd sy’n well i fywyd gwyllt a’r hinsawdd, yn ogystal â phlannu coed. Bydd gwaith ffensio strategol hefyd yn  annog glaswelltir rhonc fydd yn gweithredu fel hidlau dŵr naturiol.

Wedi ei gydlynu gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol, mae buddion y cynllun hwn yn bellgyrhaeddol. Yn ogystal â darparu strwythurau rheoli stoc cryf a chadarn a chysgod naturiol, mae gwrychoedd yn darparu corridor diogel i fywyd gwyllt symud o gwmpas; ac yn gwneud eu rhan i gefnogi taith y Parc tuag at sero-net oherwydd eu gallu i storio carbon. Maent hefyd yn gweithredu fel rhwystr naturiol sy’n arafu treiddiad dŵr glaw a lleihau’r lefelau o ddyddodion a ffosffadau sy’n cael eu rhyddhau i’r cyrsiau dŵr.

Trwy leihau’r lefel o ffosffadau a ryddheir o dir amaethyddol i Lyn Tegid gerllaw, a chan hynny’n gwella ansawdd y dŵr, bydd rhywogaethau o bwysigrwydd rhyngwladol fel y falwoden ludiog a’r pysgodyn prin, y gwyniad, yn parhau i ffynnu. Bydd y gwaith yma hefyd yn arwain at leihad yn ymddangosiad blŵm algaidd gwyrddlas yn y llyn.

Meddai Rhys Owen, Pennaeth Cadwraeth ac Amaeth Awdurdod y Parc Cenedlaethol:

“Rydym yn hynod ddiolchgar i BMW am eu cefnogaeth a’u cyfraniad i’r gwaith gwerthfawr yma. Yn ogystal â’r buddion amlwg i’r amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth, mae’r cynllun hwn hefyd yn cefnogi’r economi leol trwy gyflogaeth contractwyr lleol”.

Meddai Chris Brownridge, Prif Weithredwr, BMW UK:

“Mae cynaladwyedd a chymuned wrth wraidd ein busnes, a chan fod bioamrywiaeth ac iechyd natur yn bwysicach nac erioed, rydym yn falch o gefnogi ystod o brosiectau lleol o fewn y Parciau Cenedlaethol, gan gynorthwyo i warchod y tirweddau gwerthfawr hyn i genedlaethau’r dyfodol. Mae llawer mwy i Barciau Cenedlaethol anhygoel y DU na llecynnau gwyrdd, maent yn hybiau hanfodol i gymunedau fel lleoedd ar gyfer dysgu a llesiant.

Mae’r bartneriaeth hon yn rhan o strategaeth ddatgarboneiddio a chylcholdeb ehangach y mae grŵp BMW wedi ymrwymo iddo; gan gymryd cyfrifoldeb i ddatblygu datrysiadau newydd ar gyfer ein cerbydau a thu hwnt.  Mae prosiectau’r Parciau Cenedlaethol yn mynd â hyn gam ymhellach trwy helpu cymunedau a natur i ffynnu mewn cytgord, gan gefnogi pobl a’r amgylchedd ar yr un pryd.”

Diwedd

 

Nodiadau i Olygyddion

  1. Mae prosiect ‘Ailwefru Mewn Natur’ BMW wedi ei gydlynu mewn partneriaeth â National Parks UK er mwyn cefnogi adferiad natur, lleisant a phrosiectau sy’n annog rhagor o dwristiaeth gynaliadwy. Bydd  prosiectau ym mhob un o 15 Parc Cenedlaethol y DU yn cael eu cefnogi yn ystod y bartneriaeth o dair mlynedd gyda BMW.
  2. Mae ‘Ailwefru Mewn Natur’ BMW yn ariannu ymestyniad o’r rhwydwaith gwefru cerbydau trydan  ar draws Parciau Cenedlaethol y DU, a gyhoeddwyd fis Hydref y llynedd. Bydd gosod pyst gwefru ‘Pod Point’ mewn lleoliadau allweddol o fewn y Parciau Cenedlaethol yn cefnogi mynediad i’r lleoedd bendigedig yma i’r cerbydau tawelaf sydd â’r allyriadau isaf, yn ogystal ag i gefnogi cymunedau lleol wrth newid i dechnoleg newydd.
  3. Am ragor o wybodaeth am y BMW Group UK a phrosiect ‘Ailwefru Mewn Natur’ ewch i bmw.co.uk/nationalparks
  4. Am ragor o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad cysylltwch â Gwen Aeron Edwards, Swyddog Cyfathrebu Cynllunio a Rheolaeth Tir ar gwen.aeron@eryri.llyw.cymru neu 01766 770 274 / 07887452467.