(Datganiad i’r Wasg gan Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy)

Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn arwain prosiect Awyr Dywyll drwy Gymru gyfan.

Yn arwain ar ran wyth Tirwedd Ddynodedig Cymru, sef Parciau Cenedlaethol Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro, ac AHNE Ynys Môn, Llŷn, Gŵyr a Dyffryn Gwy, bydd AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn rheoli’r prosiect Awyr Dywyll cenedlaethol.

Mae gan bob Tirwedd Ddynodedig uchelgeisiau Awyr Dywyll, a phob un wrthi ar wahanol gamau yn gwneud eu gwaith eu hunain yn lleol i wella eu hawyr dywyll.

Un elfen gyffredin a ganfuwyd ar draws yr holl Dirweddau Dynodedig yw gwaith cyfalaf y gellir ei wneud i wella awyr y nos. Drwy gydweithio, gobaith y prosiect yw cael effaith gadarnhaol ar y tirweddau gwarchodedig. Mae’r Prosiect Nos eisoes wedi bod yn cydweithio’n llwyddiannus mewn partneriaeth ledled gogledd Cymru ers 3 blynedd. Y nod yw ehangu hyn ar draws Cymru er mwyn i nodau’r prosiect fod yn fuddiol i Gymru gyfan.

Mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi cael cyllid grant drwy raglen Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, i ariannu cynlluniau goleuo a phrosiectau ôl-osod ar draws yr 8 Tirwedd Ddynodedig rhwng 2022 a 2025.

Nod y prosiect fydd gostwng llygredd golau yn yr ardaloedd hyn a lleihau’r effeithiau negyddol ar fioamrywiaeth, yr hinsawdd ac iechyd y cyhoedd, yn ogystal ag amddiffyn yr Awyr Dywyll.

Mae llygredd golau yn broblem gynyddol yn fyd-eang, gyda chynnydd o hyd at 400% yn y 25 mlynedd ddiwethaf.

Dim ond yn y blynyddoedd diweddar y mae’r wir effaith ar fioamrywiaeth wedi dechrau cael ei chydnabod. Drwy leihau llygredd golau mewn ardaloedd dynodedig, bydd y prosiect yn gwella cysylltedd drwy adfer tirwedd naturiol y nos.

Mae llygredd golau yn un o brif ysgogwyr y dirywiad mewn pryfed, yn arbennig pryfed adeiniog a lindys. Mae’n amharu ar gylch bywyd llu o rywogaethau, yn rhai daearol a morol. Bydd adfer tywyllwch naturiol yn cryfhau cadernid yr ecosystem ac yn hybu adferiad bioamrywiaeth. Drwy edrych ar hyn ar raddfa’r dirwedd, gall y prosiect wella coridorau’r nos yn sylweddol.

Mae goleuadau Awyr Dywyll yn isel o ran ynni a charbon. Byddant yn arwain at lai o allyriadau carbon ym mhob ardal ddynodedig. Bydd rhaglenni ôl-osod goleuadau hefyd yn lleihau swm cyffredinol yr ynni a ddefnyddir yn yr ardaloedd.

Dywedodd y Cynghorydd Win-Mullen James, Aelod Arweiniol Cabinet Sir Ddinbych ar Ddatblygu Lleol a Chynllunio:

“Mae’n hysbys fod llygredd golau yn cael effaith negyddol ar iechyd pobl hefyd. Bydd y prosiect awyr dywyll yn gweithio ar leihau llygredd golau mewn ardaloedd allweddol ac yn cynnig cyfleoedd i gysylltu pobl a chymunedau ag awyr y nos a bioamrywiaeth y nos. Bydd hefyd yn hybu effeithiau cadarnhaol cysylltedd natur ar ein lles meddyliol a chorfforol.”

Fel rhan o’r prosiect, mae Ridge and Partners LLP, sef cwmni dylunio goleuadau arbenigol, wedi eu caffael i weithio gyda’r prosiect Awyr Dywyll i ddarparu prosiectau ôl-osod goleuadau ym mhob un o’r wyth ardal. Bydd Ridge yn cychwyn drwy ymweld â’r wyth ardal i gynnal arolwg llygredd golau sylfaenol ac i ganfod cyfleoedd i wella a’r pocedi mwyaf o lygredd golau ac ardaloedd lle bydd ôl-osod goleuadau yn cael effaith sylweddol.

Byddant yn nodi ac yn cynghori’r prosiect ynglŷn â pha ardaloedd ac adeiladau i’w targedu i sicrhau’r newid cadarnhaol mwyaf o ran llygredd golau.

Meddai Andrew Bissell, partner yng nghwmni Ridge and Partners:

“Rydym wedi cyffroi’n arw i gael gweithio ar y prosiect Awyr Dywyll Cymru gyfan sy’n cynnwys pob un o wyth tirwedd ddynodedig Cymru. Mae uchelgais y prosiect yn ysbrydoledig ac rydym yn edrych ymlaen at gael gweld effaith gadarnhaol y newidiadau.”