Gyda penwythnos gŵyl y banc a gwyliau hanner tymor yn agoshau mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Cyngor Gwynedd, Cyngor Conwy, Traffic Cymru a Heddlu Gogledd Cymru yn ymuno a’i gilydd i annog y cyhoedd i ymweld ag Eryri yn gyfrifol a chynaladwy.

Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn ardal o harddwch naturiol anhygoel sy’n denu ymwelwyr o bell ac agos. Er hynny mae’r cynnydd mewn poblogrwydd yn dod a heriau i’n cymunedau ac amgylchedd bregus. Er mwyn sicrhau ein bod yn diogelu Eryri mae’n hanfodol bod ymwelwyr yn mabwysiadu arferion cynaladwy ac yn dilyn y canllawiau sy’n cael eu darparu.

Dywedodd Gethin Jones, Prif Arolygydd Heddlu Gogledd Cymru:

“Mae parcio anghyfrifol yn gallu peryglu cerddwyr, beicwyr a defnyddwyr ffyrdd eraill ond yn ogystal a hyn yn effeithio ar fynediad cerbydau y gwasnaethau brys. Rydym wedi tystio enghreifftiau blaenorol o gerddwyr a phlant bychain yn cael eu gorfodi i gerdded ar y ffordd mewn ardaloedd megis Llyn Ogwen a Phen-y-Pass oherwydd gweithredoedd hunanol y lleiafrif – mae hyn yn hollol annerbyniol. Yn ddiweddar bu’n rhaid i ni gau yr A5 oherwydd perygl i ddefnyddwyr ffordd.

Mi fyddwn yn parhau i gydweithio gyda’n partneriaid i leihau’r perygl i holl ddefnyddwyr ffyrdd a mi fydd unrhywun sy’n parcio ar glirffordd neu’n achosi rhwystr o bosib yn cael eu cerbyd wedi eu symud ac yn gorfod talu’r costau. Cymerwch sylw o’r rhybudd.”

Mae rheoliadau parcio a thrafndiaeth yn chwarae rôl hanfodol yn rheoli llif ymwelwyr i ardaloedd poblogaidd y Parc Cenedlaethol. Mae Traffic Cymru ac awdurdodau lleol wedi cyflwyno mesuriadau i hwyluso tagfeydd a diogelu holl ddefnyddwyr y ffyrdd. Rydym yn annog ymwelwyr i wirio gwefannau a sianeli cyfryngau cymdeithasol am fwy o wybodaeth am argaeledd parcio, opsiynau trafnidiaeth amgen a diweddariadau traffig.

Dywedodd llefarydd ar rhan Traffig Cymru:

“Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl mwynhau’r hyn sydd gan y Parc Cenedlaethol i’w gynnig mewn ffordd ddiogel a chyfrifol. Dylai holl ddefnyddwyr ffordd gynllunio ymlaen llaw ac osgoi anghyfleustra drwy ystyried defnyddio opsiynau mwy cynaliadwy ar gyfer eu siwrneiau, teithio y tu allan i oriau brig ac, os maent yn cyrraedd mewn car, parcio mewn mannau parcio dynodedig.”

Mae’r holl sefydliadau am bwysleisio pwysigrwydd dilyn y Cod Cefn Gwlad, bod yn ymwybodol o reoliadau parcio a thrafnidiaeth a fod a cynllun wrth gefn. Rydym hefyd yn falch o gyhoeddi canllawiau ymweld newydd sydd ar gael ar wefan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

 

Dywedodd Emyr Williams, Prif Weithredwr Awdurdod y Parc Cenedlaethol:

“Trwy gyhoeddi cyfres o ganllawiau ymweld newydd ar ein gwefan rydym yn rhoi pŵer i ymwelwyr brofi Eryri mewn ffordd gynaladwy, darganfod mwy o’r ardal heb gar a gwneud y dewis gorau o pa lwybr sydd fwyaf addas iddyn nhw ar gyfer Yr Wyddfa.

Mae’r canllawiau yma yn Adnoddau amhrisiadwy sy’n darparu mewnolwg a chyngor ymarferol fydd yn galluogi unigolion wneud penderfyniadau gwybodus, lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd a sicrhau ymweliad cofiadwy a chyfrifol i’n Parc Cenedlaethol”.

Yn ystod cyfnodau brig rydym yn annog y Parc Cenedlaethol i ddefnyddio cyfleusterau Parcio a Theithio neu meysydd parcio dynodedig os yn cyrraedd mewn car. Mae’n rhaid i ymwelwyr sy’n dymuno parcio ym Mhen y Pass ragarchebu eu safle o flaen llaw er mwyn sicrhau lle ac osgoi tagfeydd.

Mi ddylai perchnogion cerbydau ddilyn y cyfyngiadau parcio newydd yn Nyffryn Ogwen, gall methu gwneud hyn arwain at dderbyn Rhybudd Talu Cosb neu atafaelu y cerbyd.

Yn ychwanegol, i barchu cymuned Nant Gwynant trwy ddilyn y rheoliadau lleol, bod yn ymwybodol o sŵn a mynd a’ch holl sbwriel adref gyda chi.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd:

“Ein neges i bobl wrth feddwl ymlaen i gyfnod y gwyliau ydi i gynllunio’u hymweliad a gweithgareddau ymlaen llaw. Defnyddiwch y meysydd parcio priodol a gwneud y mwyaf o’r gwasanaethau bws sydd ar gael i grwydro’r ardal.

Bydd y gwasanaeth bws Sherpa yn rhedeg gan gysylltu llwybrau poblogaidd o amgylch Yr Wyddfa ac mae gwasanaethau eraill fel bysiau trydan cymunedol hefyd yn cynnig gwasanaethau yn yr ardal. Mae hyn yn galluogi pobl i barcio mewn meysydd parcio priodol cyn mwynhau mynyddoedd Eryri ac atyniadau poblogaidd eraill sydd ar gael yn lleol.

Fel Cyngor rydym yn cydweithio’n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri a phartneriaid eraill i fonitro’r tueddiadau parcio. Mae staff yr holl bartneriaid yn cydweithio i gadw’r cyhoedd yn ddiogel a gofynnwn i drigolion a phobl sy’n ymweld i gofio hyn wrth ymweld ag i drin ein staff gyda pharch a charedigrwydd.

Rydym am weld pawb yn mwynhau’r ardal yn ddiogel. Ond fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol, os bydd modurwyr yn parcio yn anghyfreithlon byddwn yn cymryd camau priodol er diogelwch y cyhoedd.”

Mae’r Cod Cefn Gwlad yn amlinellu egwyddorion bod yn gyfrifol yn yr awyr agored trwy barchu eraill, diogelu bywyd gwyllt a da byw, a pheidio gadael gadael unrhyw ôl o’ch hymweliad. Mae ymwelwyr yn cael eu hannog i ymgyfarwyddo a’r cod a dilyn yr argymhellion er mwyn gwarchod tirweddau a bioamrywiaeth unigryw y Parc.

Wrth ddisgwyl nifer uchel o ymwelwyr dros y gwyliau, mae’r sefydliadau yn pwysleisio’r angen am gynllun wrth gefn. Os yw’r gyrchfan dymunol yn rhy brysur, mae ymwelwyr yn cael eu hannog i ddarganfod ardaloedd amgen sy’n cynnig tirweddau a chyfloedd hamdden sydd yr un mor syfrdanol.

Nodyn i Olygyddion

  1. Canllawiau ar sut i ymweld Eryri yn gynaladwy
  2. Tudalen hysbysiadau Traffig Cymru
  3. Gwybodaeth am barcio yn Pen y Pass
  4. Amserlenni Sherpa’r Wyddfa Timetables
  5. Ap Parcio Eryri
  6. Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda Ioan Gwilym, Swyddog Cyfathrebu Gwasanaethau Corfforaethol ar 01766 772253 / 07900267506 neu ioan.gwilym@eryri.llyw.cymru