Mae awdurdodau lleol a sefydliadau cymunedol Dyffyn Ogwen wedi cyflwyno mesuriadau blaengar er mwyn hybu twristiaeth a theithio cynaladwy yn yr ardal.

Mae’r cynlluniau hyn sy’n cynnwys gwelliannau i wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, cyfyngiadau parcio a synwyryddion meysydd parcio nid yn unig yn mynd i wella mwynhâd pobl o’r ardal ond mi fydd hefyd yn lleihau tagfeydd ac allyriadau carbon.

O’r 1af o Ebrill mi fydd Bws Ogwen, bws cymunedol trydanol Partneriaeth Ogwen yn rhedeg 8 gwaith y dydd o Fethesda i Ogwen law yn llaw a gwasanaeth bws cyhoeddus y T10.

Mae cynllun Bws Ogwen yn darparu safleoedd parcio yng nghymuned Bethesda ac yn cynnig ffordd syml a chynaladwy i deithio mewn ac allan o’r ardal gan leihau nifer y ceir ar y ffordd. Hefyd am y tro cyntaf eleni, mi fydd gwasanaeth y bws wennol yn ymestyn i Gapel Curig ddwy waith y dydd.

Mi fydd cynnydd yn y gwasanaeth bws cymunedol yn darparu ffordd rhwydd ac eco-gyfeillgar i ymwelwyr deithio o gwmpas yr ardal gan annog pobl i adael eu ceir gartref neu mewn tref gyfagos a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn ei le.

Dywedodd Meleri Davies, Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen:

“Rydym ni’n falch bod Bws Ogwen, sy’n wasanaeth bws cymunedol eco-gyfeillgar yn mynd i leddfu ar broblemau parcio ac allyriadau yn y Parc Cenedlaethol yn ogystal a chreu budd economaidd i bentref Bethesda. ‘Da ni’n gobeithio bydd ymwelwyr yn dewis gwario ychydig o amser ac arian yma cyn dal y bws i’r mynyddoedd. ‘Da ni hefyd yn llogi beiciau trydan i’r rheini sydd am deithio ar ddwy olwyn”.

Yn ychwanegol i welliannau gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus mae synwyryddion safleoedd parcio wedi eu gosod ym maes parcio Canolfan Ogwen. Trwy ap Parcio Eryri mi fydd hi’n hawdd canfod faint o safleoedd gwag sydd ar gael a thrwy hynny yn osgoi tagfeydd diangen.

Dywedodd Angela Jones, Rheolwr Partneriaethau Awdurdod y Parc Cenedlaethol:

“Rydym yn falch o allu gweithio gyda’n gilydd er mwyn datrys problemau parcio yn Ogwen. Nid gwasanaethau ar gyfer ymwelwyr yn unig yw hyn, mi fydd yn rhoi budd i’r gymuned trwy greu amgylchedd diogel a chynaladwy leol. ‘Da ni’n gobeithio bydd y mesuriadau hyn yn annog mwy o bobol i ymweld a’r ardal yn gyfrifol a mwynhau’r oll sydd yno i’w gynnig”.

Mae cyfyngiadau parcio yn cael eu gosod mewn lleoliadau strategol ar hyn o bryd a mi fydd yn cael eu gorfodi ar y cyd gan Gynghorau Gwynedd a Conwy. Mi fydd hyn yn lleihau tagfeydd, hyrwyddo teithio cynaladwy a pharchu’r amgylchedd a cymunedau lleol.

Mi fydd llinellau melyn dwbl yn dangos y cyfyngiadau parcio yn glir mewn ardaloedd broblemus, yn enwedig yn ystod y tymor brig pan mae ymwelwyr yn heidio i’r ardal i fwynhau’r golygfeydd godidog a gweithgareddau awyr agored.

Dywedodd David Cooil, Pennaeth Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru:

“Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid i ddatrys problemau parcio anghyfrifol yn ardal Ogwen. Rydym yn gobeithio bydd y cynlluniau diweddaraf hyn, yn ychwanegol i welliannau llynedd, yn sicrhau bod pawb yn cael mwynhau’r ardal yn ddiogel. Rydym yn annog rheini sy’n teithio i’r ardal i gynllunio o flaen llaw ac i barcio’n gyfrifol.”

Gall pobl wirio amodau’r traffig a’r ffyrdd cyn teithio i Ogwen ar wefan Traffig Cymru.

Mae’r ymdrechion hyn gan yr holl bartneriaid yn anelu i warchod yr amgylchedd leol, darparu hwb i’r economi a cymunedau yn ogystal a hyrwyddo teithio cynaladwy yn yr ardal er mwyn cynnig gwell profiad i ymwelwyr.

DIWEDD.

Nodyn i Olygyddion

  1. Mae Awdurdodau a Sefydliadau ynghlwm a’r penderfyniadau wedi cynnwys Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru, Partneriaeth Ogwen, Heddlu Gogledd Cymru, Cyngor Gwynedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyfoeth Naturiol Cymru, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Llywodraeth Cymru
  2. Mwy o wybodaeth am Bws Ogwen
  3. Ap Parcio Eryri
  4. Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda Ioan Gwilym, Swyddog Cyfathrebu Gwasanaethau Corfforaethol yr Awdurdod ar 01766 772253 / 07900267506 neu ioan.gwilym@eryri.llyw.cymru