Mae ail Wythnos Awyr Dywyll Cymru yn anelu at godi ymwybyddiaeth am leihau llygredd golau er mwyn cenhedlaethau’r dyfodol ac annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr dywyll.

Rhwng yr 17eg a’r 26ain o Chwefror bydd teulu tirweddau dynodedig Cymru yn cydweithio i gynnal wythnos o ddigwyddiadau ar draws y wlad.

Mi fydd y digwyddiadau hyn yn arddangos beth sydd gan ein Awyr Dywyll dynodedig ei gynnig a gobeithio ennyn diddordeb ein cymunedau a busnesau i gymryd mantais o’r hyn sydd gan natur ei gynnig i ni. Mae ein awyr dywyll yn amddiffyn ein bywyd gwyllt a’n hinsawdd ond gall hefyd ymestyn y tymor ymwelwyr ac annog twristiaeth y tu allan i’r tymor brig traddodiadol.

Mi fydd yr wythnos yn cyd-fynd â dathliad 10 mlynedd ers i’r Bannau Brycheiniog gael ei ddynodi’n Warchodfa Awyr Dywyll Rhyngwladol ac ar y 17eg o Chwefror mi fydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gofyn i drigolion a busnesau ddiffodd eu golau am awr rhwng 19.30-20.30 er mwyn gweld llewyrch sêr y nos.

Mae digwyddiadau eraill yn yr wythnos yn cynnwys teithiau cerdded seryddol yng Nghwm Idwal a’r Carneddau a straeon awyr dywyll yn Nant Gwrtheyrn yng nghwmni Fiona Collins.

Mi fydd rhywbeth i bawb ei fwynhau! Mwy o wybodaeth ar wefan Profi’r Tywyllwch Cymru.

Dywedodd Dani Robertson, Swyddog Awyr Dywyll yr Awdurdod:

“Mae Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol Cymru yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn codi ymwybyddiaeth o lygredd golau a sut gall hyn effeithio ar y ffordd yr ydym yn gweld y sêr ond hefyd ar ein iechyd ac ein bywyd gwyllt. Byddem ni wrth ein boddau os bydd pobl yn ymuno â ni ar daith o gwmpas tirweddau dynodedig y wlad er mwyn dysgu mwy am y gwaith sy’n digwydd er mwyn amddiffyn ein Awyr Dywyll a sut gallwch chi helpu”.

Nodyn i Olygyddion
1. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Ioan Gwilym, Swyddog Cyfathrebu Gwasanaethau Corfforaethol APCE ar 01766 772253 / 07900267506 neu gwilym@eryri.llyw.cymru