Gyda chymorth tîm Wardeiniaid Awdurdod y Parc Cenedlaethol bydd disgyblion Ysgol O M Edwards yn Llanuwchllyn ger y Bala yn cael cyfle i ddysgu am gylch bywyd brithyll trwy oruchwylio eu datblygiad o fod yn wyau ffrwythlon i bysgod mân mewn deorfa bysgod arbennig.

Fel cyfraniad Awdurdod y Parc Cenedlaethol i brosiect LIFE Afon Dyfrdwy, bydd Wardeiniaid Llyn Tegid yn cydweithio gydag Ysgol O M Edwards i sefydlu deorfa bysgod dros dro yn yr ysgol. Trwy sefydlu’r ddeorfa a gofalu am yr wyau pysgod wrth iddynt ddatblygu i fod yn silod mân bydd y disgyblion yn cael cyfle arbennig i dorchi llewys a dysgu am gylch bywyd pysgod ac ecoleg afon.

Yn ogystal â’r ddeorfa yn yr ysgol, bydd deorfa arall dan ofal y Wardeiniaid yn eu canolfan ar lan Llyn Tegid. Oddi yno byddant yn monitro cyflwr yr wyau ac yn paratoi dyddiaduron fideo ar gyfnodau allweddol yn eu datblygiad. Bydd y dyddiaduron fideo hyn yn cael eu cyhoeddi ar dudalen we’r prosiect ac ar sianel You Tube Awdurdod y Parc. Ond ni fydd rhaid aros am y dyddiaduron fideo i gael gweld sut fydd yr wyau’n datblygu gan y bydd gwe-gamera pwrpasol yn ffrydio’n fyw o’r ddeorfa, felly gall plant a phobl o bob cwr o’r byd wylio datblygiad y pysgod.

Wedi deor, bydd y pysgod mân yn aros yn y ddeorfa nes byddant yn ddigon mawr i’w rhyddhau i Afon Twrch, sef un o lednentydd Afon Dyfrdwy ger Llanuwchllyn. Er y bydd tua 100 o wyau yn cael eu rhoi yn y ddau danc, yn anffodus nid oes disgwyl iddynt oll oroesi, gan y bydd rhai wyau yn methu’n naturiol, a rhai pysgod yn gorfod cael eu profi am haint cyn y gellir rhyddhau’r haig i’r afon er mwyn amddiffyn y stoc wyllt gynhenid o frithyll brown yr afon.

Meddai Arwel Morris, Warden Llyn Tegid a’r Ardal

“Trwy ddysgu am gylch bywyd y brithyll trwy brofiad ymarferol – o baratoi’r ddeorfa, gosod yr wyau a gofalu amdanynt hyd eu rhyddhau yn Afon Twrch, gobeithio y bydd y profiad yn meithrin diddordeb mewn amgylchedd afon a’r byd naturiol yn gyffredinol, a’r awch i ofalu amdano.”

 Meddai Joel Rees-Jones, Rheolwr Prosiect LIFE Afon Dyfrdwy:

“Yn dilyn llwyddiant y ddeorfa dosbarth y gaeaf diwethaf, rydym yn hynod falch fod Parc Cenedlaethol Eryri’n cynnal y prosiect eto. Mae rhoi cyfle i blant ysgol weld wyau brithyll yn datblygu a deor yn eu dosbarth neu ar-lein yn ffordd wych iddynt wneud cysylltiad â’u hafon leol.

Mae prosiect LIFE Afon Dyfrdwy wedi bod yn gweithio ar draws dalgylch yr Afon Dyfrdwy er mwyn cael gwared â rhwystrau a gwella’r cynefin yn yr afon er budd ystod eang o rywogaethau yn cynnwys eogiaid, lampreiod a brithyll, gyda chanlyniadau cadarnhaol eisoes i’w gweld. Bydd rhoi’r cyfle i blant weld yr hyn sydd fel arfer o’r golwg dan wyneb y dŵr gobeithio yn sicrhau eu bod yn gwarchod eu hafon leol yn y dyfodol. Diolch yn fawr i Richard Simpson o’r fferm frithyll yn Y Waun am gynorthwyo gyda’r prosiect”.

 Meddai Mr Siôn Tudur Jones o Ysgol O M Edwards, Llanuwchllyn:

“Rydyn ni’n ddiolchgar a chyffrous i gael bod yn rhan o’r prosiect deorfa bysgod. Mae’n gyfle arbennig i’r disgyblion i ddysgu am gylch bywyd pysgod yn ogystal â chael y cyfrifoldeb i ofalu amdanynt. Rwy’n ffyddiog y bydd hyn yn annog ein disgyblion i ddysgu mwy am fyd natur a’r amgylchedd o’u hamgylch. Yn dilyn sgwrs gyda’r Wardeiniaid Arwel Morris a Robat Davies, mae pawb yn awyddus iawn i weld sut y bydd y ddeorfa’n datblygu dros yr wythnosau nesaf”.

Gall ysgolion o bob cwr o’r wlad fanteisio ar y prosiect arbennig yma gan y bydd ffrwd byw o’r ddeorfa yn y Ganolfan Wardeiniaid yn cael ei darlledu 24 awr y dydd. Yn ogystal bydd pecyn addysg llawn gweithgareddau ar gael ar dudalen we’r prosiect, a bydd Swyddogion Addysg Cyfoeth Naturiol Cymru’n cynnal sesiynau hyfforddiant ar ‘Fywyd yr Afon’ ar-lein ar gyfer athrawon yn ystod mis Ionawr.

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion

  1. Mae’r prosiect deorfa yn cael ei arwain gan Wasanaeth Wardeinio Awdurdod y Parc fel rhan o’i ymrwymiad i LIFE Afon Dyfrdwy sydd dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch amcanion y prosiect yma – Cyfoeth Naturiol Cymru / LIFE Afon Dyfrdwy (naturalresources.wales)
  2. Cynhelir dau sesiwn hyfforddiant ar-lein i athrawon (un trwy’r Gymraeg a’r llall drwy’r Saesneg) ar y 25ain a’r 26ain o Ionawr.
  3. Am ragor o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad cysylltwch â Gwen Aeron Edwards – Swyddog Cyfathrebu Cynllunio a Rheolaeth Tir ar gwen.aeron@eryri.llyw.cymru neu 07887452467