Yng ngwanwyn 2020, caewyd nifer o safleoedd poblogaidd i’r cyhoedd ar draws gogledd Cymru yn dilyn cyfnod clô cenedlaethol mewn ymateb i argyfwng iechyd y coronafeirws. Roedd rhai ardaloedd wedi cau yn gyfan gwbwl ac eraill yn profi nifer isel iawn o ymwelwyr o ganlyniad i’r cyfnod clo a chyfyngiadau teithio.

Er mwyn dadansoddi’r ffyrdd mae bywyd gwyllt yn ymateb i’r cyfnod eithriadol hwn ym Mharc Cenedlaethol Eryri ac ar draws gogledd-orllewin Cymru, comisiynodd Cyfoeth Naturiol Cymru, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gyfres o arolygon bioamrywiaeth gan yr amgylcheddwr Ben Porter ym Mehefin 2020.

Mae’r tair mlynedd diwethaf o gyferbyniad mewn niferoedd ymwelwyr wedi bod yn gyfle da i gymharu data o’r arolygon hyn er mwyn asesu pa effeithiau all fod ar fywyd gwyllt, lefelau sbwriel ac effeithiau cyffredinol eraill ar dirwedd y Parc Cenedlaethol.

Mae’r trydydd adroddiad yn amlygu prif ganfyddiadau’r ffyrdd mae natur yn ymateb i gynnydd mewn niforedd ymwelwyr mewn safleoedd poblogaidd.

Roedd gostyngiad mewn amlder a nifer o rhywogaethau adar yn thema oedd yn rhedeg trwy’r adroddiad mewn nifer o safleoedd yr ucheldir, coedtiroedd ac ardaloedd arfordirol. Roedd nifer yr adar nythu yn is ym mhob safle am nifer o resymau gwahanol megis cynnydd mewn niferoedd ymwelwyr yn y mynyddoedd neu aflonyddwch gan badlfyrddiau a cychod modur yn yr arfordiroedd.

Roedd erydiad yn nodwedd bwysig iawn o’r adroddiad yn dilyn dau dymor ymwelwyr prysur yn arwain at ddwysedd uchel o gerddwyr yn erydu llwybrau megis Cwm Llan ar Lwybr Watkin Yr Wyddfa, llystyfiant arfordirol yn cael eu sathru yn Ynys Llanddwyn a llwbrau newydd yn cael eu creu ar Y Garn yng Nghwm Idwal.

Nodyn cadarnhaol oedd y lleihad mewn sbwriel o gymharu a 2021. Mae’r cyfansymiau sydd ychydig yn îs na’r llynedd yn debygol o fod yn ganlyniad i waith grwpiau megis Caru Eryri*, timau Wardeinio  a Wardeiniaid Gwirfoddol Awdurdod y Parc Cenedlaethol, a rhai eraill fel Trash Free Trails.

Dywedodd Ben Porter, Ecolegydd ac Awdur yr Adroddiad:

‘Mae’n amlwg bod heriau sylweddol yn wynebu Eryri a’r bywyd gwyllt sydd yn byw yno, o broblemau sbwriel i newidiadau yn yr hinsawdd sy’n fygythiad i’r rhywogaethau unigryw sydd yn byw yma. Rydw i’n gobeithio y bydd canlyniadau’r arolygon hyn yn atgyfnerthu gwaith rheoli y Parc Cenedlaethol i gydbwyso anghenion ymwelwyr a’r cymunedau lleol tra’n sicrhau ein bod yn gwarchod treftadaeth naturiol y rhan anhygoel yma o Gymru ar gyfer y dyfodol’.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio mewn Partneriaeth ar nifer o brosiectau a strategaethau er mwyn lleihau effeithiau niferoedd ymwelwyr ar ein tirweddau a bioamrywiaeth

Mae hyn yn cynnwys ymagwedd cynialadwy hir-dymor at dwristiaeth a thrafnidiaeth yn y rhanbarth fydd yn ffordd fwy cyfeillgar i’r amgylchedd o ymweld a gogledd orllewin Cymru, fydd yn ei dro yn lleihau effeithiau ar ein cynefinoedd a bywyd gwyllt.

Mae’r parteriaid sydd ynghlwm a’r adroddiad yn monitro niferoedd ymwelwyr gyda rhifyddion ar rai o lwybrau a safleoedd prysuraf yr ardal. Mae staff a gwirfoddolwyr ar lawr gwlad yr awdurdodau yn gallu codi ymwybyddiaeth a chynnig cyngor ar faterion megis cŵn o gwmpas adar nythu yn y Gwanwyn, sbwriel a ffyrdd eraill o leihau eu heffaith ac ôl-troed carbon yn ystod eu hamser yma.