I baratoi ar gyfer gŵyl y banc, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Thrafnidiaeth Cymru wedi cydweithio ar system technoleg rheoli parcio uchelgeisiol mewn meysydd parcio poblogaidd o amgylch Yr Wyddfa ac yn Ogwen.

Bydd y system yn cael ei weithredu fel rhan o Strategaeth Parcio a Thrafnidiaeth Yr Wyddfa ac Ogwen i reoli mynediad a pharcio yn rhai o ardaloedd mwyaf poblogaidd y Parc Cenedlaethol.

Mi fydd yn rhan o ymagwedd hirdymor twristiaeth gynaliadwy Partneriaeth Yr Wyddfa sy’n anelu i wella profiad ymwelwyr trwy leihau’r effeithiau amgylcheddol tra’n gwarchod ein cymunedau lleol.

Bydd dros 500 o synwyryddion yn monitro safleoedd meysydd parcio er mwyn cyflwyno gwybodaeth fyw i ymwelwyr fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus am lefydd parcio gwag, yn hytrach na gyrru o gwmpas y Parc Cenedlaethol yn chwilio am fan parcio. Mi fydd y wybodaeth yn cael ei gyflwyno ar wefan yr Awdurdod ac ar ap symudol Smart Parking.

Yn fuan mae’r Awdurdod yn cynllunio i ddatblygu system fydd yn cynnwys map byw rhyngweithiol yn dangos faint o lefydd parcio sydd ar gael, gwybodaeth am gyfleusterau ym meysydd parcio’r Awdurdod a’r gallu i gysylltu gyda ap rhagarchebu safle parcio mewn meysydd dynodedig.

 

Dywedodd Angela Jones, Rheolwr Partneriaethau APCE;

Mae cydweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru a Smart Parking yn galluogi’r Awdurdod i gael mynediad at ddata tueddiadau a defnydd yn ein meysydd parcio fydd yn ein galluogi i ddatblygu strategaethau cynaliadwy ymhellach.

Rydym yn parhau i weld cynnydd mewn niferoedd ymwelwyr yn dilyn cyfyngiadau’r coronafeirws a’r pwysau ychwanegol mae arosiadau byr yn achosi. Ein nod yw gwella profiad yr ymwelydd tra ar yr un pryd yn gwarchod ein tirweddau, a chymunedau lleol trwy welliannau eang i’r rhwydwaith drafnidiaeth yn Eryri. Bydd y prosiect hwn yn cyfrannu’n fawr tuag at y dyheadau hynny.”

 

Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Datblygu Trafnidiaeth Cymru ar gyfer Gogledd, Canolbarth a Chymru Wledig:

Mae datblygu atebion i broblemau parcio o gwmpas Yr Wyddfa ac Ogwen yn un o heriau mwyaf yr ardal ac rydym yn falch o gefnogi Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn eu strategaeth i wella mynediad a hybu mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gynaliadwy.

Mae’r dechnoleg gyfoes yma sydd wedi ei ddatblygu gan Smart Parking yn un o nifer o atebion fydd yn weithredol gan gynnwys  gwelliant mewn gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a chysylltiadau teithio.”