Cafodd gwasanaeth bws sy’n cynnig mwy o wasanaethau ac integreiddio gwell rhwng teithwyr ei lansio’n swyddogol yn Nant Peris ym Mharc Cenedlaethol Eryri dydd Gwener (8 Gorffennaf).

 

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth agos â Chyngor Sir Gwynedd i wella hen wasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa.  Mae’r ‘Sherpa’r Wyddfa’ newydd ei frandio wedi bod ar waith yn yr ardal dros yr wythnosau diwethaf, gan ddod â thwristiaid a phobl leol i mewn i’r Parc Cenedlaethol a helpu i leddfu tagfeydd ar y ffyrdd.

Gydag amserlen haf newydd ar waith sy’n darparu gwasanaethau amlach, mae Sherpa’r Wyddfa yn cynnig opsiynau gwell i gwsmeriaid ac yn eu hannog i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus wrth deithio ar hyd a lled Parc Cenedlaethol Eryri.

Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Datblygu TrC ar gyfer y Canolbarth, y Gogledd a Chymru Wledig: “Mae tîm bysiau TrC wedi bod yn cefnogi Cyngor Sir Gwynedd gyda newidiadau i hen wasanaeth bysiau Sherpa’r Wyddfa dros y misoedd diwethaf, gan gynnwys datblygu brand newydd ar gyfer y gwasanaeth. Bellach, mae’n cael ei alw’n ‘Sherpa’r Wyddfa’ ac mae’n cynnwys rhaglenni byw newydd sbon sy’n adlewyrchu golygfeydd Eryri ac yn cynnwys Lili eiconig yr Wyddfa. Rydyn ni hefyd wedi gweithio gyda Chyngor Sir Gwynedd a Gwynfor Coaches i wella amlder, llwybrau ac integreiddiad y gwasanaeth ac rydyn ni wedi creu taflenni hyrwyddo newydd, baneri i safleoedd bysiau, byrddau gwybodaeth ac asedau cyfryngau cymdeithasol, gyda chynlluniau i ddatblygu gwefan newydd hefyd. Erbyn hyn, gall ymwelwyr â’r Parc Cenedlaethol ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i fynd yr holl ffordd i mewn i’r parc gyda chysylltiadau gwych â’r rheilffyrdd a dulliau teithio eraill.”

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd yng Ngwynedd: “Mae’r datblygiadau i’r gwasanaeth yn rhagorol ac maent eisoes yn helpu i sbarduno newid ymddygiad gan fod mwy a mwy o bobl yn dewis gadael eu ceir yng nghyfleusterau parcio a theithio’r Parc Cenedlaethol ac yn neidio ar y bws i fynd â nhw allan am ddiwrnod o antur.”

Dywedodd Angela Jones, Rheolwr Partneriaethau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: “Rydyn ni wedi bod yn gweithio ar nifer o brosiectau gyda TrC i fynd i’r afael â’r problemau parcio ar draws y parc cenedlaethol ac mae’r gwasanaeth hwn yn elfen arall sy’n helpu i wireddu twristiaeth gynaliadwy yma yng Ngogledd Cymru.”

Ers cyflwyno’r amserlen newydd ym mis Ebrill eleni, mae nifer y teithwyr eisoes wedi cynyddu 18% o’i gymharu â’r un cyfnod cyn Covid yn 2019.