Mae gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol sawl cownter wedi eu lleoli mewn mannau strategol ar draws Eryri ac mae’r data sy’n cael ei gasglu ymysg y data mwyaf cynhwysfawr o unrhyw Barc Cenedlaethol.
Defnyddio’r data
Mae’r data empirig a gynhyrchir yn bwysig am sawl rheswm. Mae’r data yn caniatáu i’r Awdurdod nodi llwybrau neu ardaloedd poblogaidd ac i ddyrannu adnoddau digonol ar gyfer eu cynnal a’u rheoli.
Mae’r ffigyrau hefyd yn galluogi’r Awdurdod i ragweld gofynion staffio, boed yn rheolaidd neu’n dymhorol, i reoli ardaloedd poblogaidd â dwysedd uchel.
Mae’r data hefyd yn ddefnyddiol i sefydliadau eraill yn y diwydiant twristiaeth. Fe’i defnyddir i asesu tueddiadau ac i ddylanwadu ar benderfyniadau seilwaith megis polisïau trafnidiaeth gyhoeddus a pharcio.
Casglu’r data
Caiff y data ei gasglu mewn dau fodd:
- cownteri padiau pwysau
- cownteri thermol sy’n denfyddio technoleg break beam
Mae’r holl ddata a gesglir yn ddienw.
Mae rhai cownteri hefyd yn aml-gyfeiriadol ac yn gallu gwahaniaethu rhwng beicwyr a cherddwyr.
Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cyhoeddi Adroddiad Monitro Ymwelwyr yn flynyddol i gyflwyno’r data’n gyhoeddus.