Os ydych chi’n dueddol o wneud defnydd cyson o feysydd parcio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, gallwch ystyried prynu trwydded i hwyluso eich ymweliad ag Eryri.
Mae’r drwydded yn caniatáu i chi barcio ym meysydd parcio talu ac arddangos Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn ddi-dâl.
Bydd y drwydded yn ddilys am gyfnod o flwyddyn rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth bob blwyddyn. Bydd angen adnewyddu eich trwydded yn flynyddol.
Dim ond mewn meysydd parcio dan reolaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a ganiateir defnydd o’r drwydded. Mae rhai meysydd parcio yn y Parc Cenedlaethol dan reolaeth endidau eraill megis Cyfoeth Naturiol Cymru neu’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Nid yw’r drwydded yn ddilys mewn meysydd parcio dan reolaeth endidau eraill.
Bydd y drwydded parcio yn caniatáu defnydd o’r meysydd parcio canlynol:
- Betws y Coed
- Ogwen
- Nant Peris
- Cwellyn
- Pont Bethania
- Beddgelert
- Rhyd Ddu
- Llyn Tegid
- Morfa Dyffryn
- Tŷ Nant
- Dol Idris
- Llangywer
- Capel Curig
Nid yw’r drwydded yn caniatáu parcio yn y meysydd parcio canlynol:
- Pen y Pass
- Cae Llan (Betws y Coed)
Nid yw’r drwydded yn caniatáu parcio yn y meysydd parcio canlynol:
- Pen y Pass – mae’n rhaid rhagarchebu lle ar gyfer parcio ym Mhen y Pass
- Cae Llan – maes parcio arhosiad byr dros ffordd i orsaf drên Betws y Coed
Mae trwydded blynyddol sy’n rhedeg o 1 Ebrill i 31 Mawrth yn costio £120 waeth be fo’r cerbyd.
Mae’r pris hwn yn cynnwys TAW ar y raddfa safonol o 20%.
- Sicrhewch eich bod chi’n arddangos eich trwydded yn glir pan fyddwch yn parcio er mwyn i ofalwyr y maes parcio fedru ei ddarllen yn hawdd.
- Nid yw’r drwydded yn gwarantu lle parcio i chi ymlaen llaw.
- Rhaid parcio oddi fewn y baeau parcio priodol.
- Ni ddylech lungopïo neu newid eich trwydded neu adael i rhywun arall wneud hynny.
- Bydd tâl o £10 yn cael ei godi i ail argraffu trwydded
Archebu trwydded
Gallwch archebu trwydded drwy gwblhau’r ffurflen trwyddedau parcio blynyddol.
Lawrlwytho Ffurflen Drwydded Blynyddol
Wedi i chi gwblhau’r ffurflen, dylech ei danfon i’r cyswllt canlynol.
Adain Eiddo
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Swyddfa’r Parc Cenedlaethol
Penrhyndeudraeth
Gwynedd
LL48 6LF
property@snowdonia.gov.wales
Ffôn: 01766 772 511