Llyn Tegid yw llyn naturiol mwyaf Cymru ac mae’n eiddo i Barc Cenedlaethol Eryri ac yn cael ei reoli ganddo.

 

Dynodiadau ar gyfer cadwraeth:
Mae ganddo ddynodiadau pwysig ar gyfer cadwraeth.

Un o brif ddibenion Parc Cenedlaethol Eryri yw cynnal y dynodiadau cadwraeth hynny a sicrhau nad ydynt yn cael eu peryglu.

Gyda hyn mewn golwg, mae’r llyn yn croesawu llawer o ddefnyddwyr gan gynnwys digwyddiadau ac yn gwerthfawrogi bod llawer ohonynt yn werth chweil, a phan fyddant yn cael eu rhedeg yn gyfrifol gallant ddod â mwynhad mawr i gyfranogwyr ac mae hefyd o fudd economaidd sylweddol i’r ardal.

Fodd bynnag, dim ond cyn belled â bod gweithgareddau yn cael eu rheoli’n dda ac nad ydynt yn niweidiol i’r dynodiadau y gall hyn ddigwydd.

Mae hefyd yn bwysig bod y gweithgareddau hyn yn cael eu cynnal gyda gofal dyledus a thrwy gadw at y cyngor a gynigir gan Barc Cenedlaethol Eryri o ran diogelwch a bioddiogelwch.

Dylai trefnwyr y digwyddiadau bob amser ymgynghori ymlaen llaw â Warden Parc Cenedlaethol Eryri yn Swyddfa’r Llynnoedd, Blaendraeth Llyn Tegid, Ffordd Pensarn, a’r Bala. Gwynedd. LL23 7SR

Neu ffôn: 01678 520626 neu parc@eryri.llyw.cymru

 

Mae nifer o bwyntiau yr hoffem dynnu sylw trefnwyr digwyddiadau atynt:

Mae’r meysydd parcio cyhoeddus o amgylch y llyn yn rhai talu ac arddangos i raddau helaeth a dylai trefnwyr digwyddiadau fod yn ymwybodol o hyn. *Nid yw Parc Cenedlaethol Eryri yn caniatáu i ddigwyddiadau gael defnydd o unrhyw feysydd parcio yn unig oni bai drwy drefniant ymlaen llaw. Ni chaniateir gwersylla dros nos ar feysydd parcio’r Parc Cenedlaethol

Defnyddir y llyn ar gyfer amrywiaeth o chwaraeon dŵr gan gynnwys hwylfyrddio, hwylio, canŵio, padlfyrddio, nofio ac fel canolfan ar gyfer digwyddiadau triathlon. Fodd bynnag, ni chaniateir unrhyw fath o gychod modur cyffredinol na chwaraeon dŵr.

*Mae defnyddwyr yn defnyddio’r llyn ar eu risg eu hunain a dylai unrhyw ddigwyddiad gael aseiad risg llawn. Dylid trosglwyddo Asesiadau Risg i’r Warden Llyn i’w cymeradwyo/roi sylwadau arnynt cyn unrhyw ddigwyddiad wedi’i drefnu ar y llyn.

Nodwch fod taliadau yn berthnasol am unrhyw weithgareddau ar y dŵr gan gynnwys pysgota a chychod o unrhyw fath. Gellir cael trwyddedau o Swyddfa Wardeiniaid y Bala ym mhen gogleddol pellaf y llyn ger y maes parcio cyhoeddus ac maent hefyd ar gael o unrhyw un o’r peiriannau talu ac arddangos.

Am ragor o wybodaeth am y profiad pysgota gweler: Cymdeithas Genweirio Bala a’r Cylch

Mae siart bathymetrig o’r llyn hefyd ar gael ar y wefan hon

Argymhellion ar gyfer chwaraeon dŵr:

Mae angen siacedi achub neu gymhorthion arnofio cymeradwy ar gyfer pob gweithgaredd ar y dŵr (ac eithrio nofio).

Cynghorir nofwyr i wisgo capiau hi viz a dyfais arnofio pryd bynnag y bo modd. Byddwch yn ymwybodol o ddefnyddwyr eraill neu unrhyw ddigwyddiadau hwylio sy’n digwydd ar y llyn.

Rydym yn argymell bod nofwyr yn cadw at y lôn nofio ar yr ochr orllewinol sydd wedi’i neilltuo gyda bwiau melyn. Mae hwn oddeutu 50m o led (o’r draethlin) a 400m o hyd gan ddechrau yn y lanfa sydd wedi’i lleoli ar y blaendraeth gogleddol.

Byddwch hefyd yn ymwybodol y gallai fod pysgotwyr ochr y banc a allai fod yn bwrw eu lein pysgota o bryd i’w gilydd felly ceisiwch osgoi’r rhain pryd bynnag y bo modd.

Nid oes unrhyw ffioedd ar gyfer nofwyr cyffredinol ond bydd ‘tâl y pen’ yn cael ei gymhwyso ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau nofio wedi’u trefnu neu fel rhan o driathlon.

Mae’r llyn yn oer iawn hyd yn oed yn ystod misoedd yr haf felly dylai unrhyw un sy’n ymgymryd â gweithgareddau fod yn gwbl ymwybodol o hyn. Dylai trefnwyr y digwyddiad drosglwyddo’r wybodaeth hon i unrhyw gyfranogwyr yn ystod unrhyw briffio neu gyfarwyddiadau digwyddiad a sicrhau eu bod wedi’u paratoi’n ddigonol ar gyfer y mater hwn.

Mae’r Parc Cenedlaethol yn ymdrin â’r mater hwn wirioneddol o ddifri. Mae gan gyfranogwyr gweithgareddau sy’n seiliedig ar ddŵr ar y llyn gyfrifoldeb i sicrhau bod unrhyw offer megis: padlfyrddau, syrffwyr gwynt, cychod gan gynnwys canŵs a chaiacau, dillad amddiffynnol fel rhydwyr, dyfeisiadau arnofio, wellingtons/bwtsias, esgidiau dŵr, siwtiau gwlyb/sych ac offer pysgota yn cael eu glanhau’n drylwyr cyn i chi gyrraedd y safle ac yna ar ôl eu defnyddio.

Cyfeiriwch at y dolenni canlynol i gael rhywfaint o gyngor defnyddiol ar fioddiogelwch

NNSS

Algâu
O bryd i'w gilydd, yn enwedig mewn tywydd poeth, mae algâu blodeuol achlysurol yn ymddangos ar y llyn. Yn gyffredinol, bydd Wardeniaid y llyn yn codi arwyddion cynghori pan fydd yr algâu blodeuol hyn yn bresennol ond os byddwch chi'n dod ar draws unrhyw beth tra yn y dŵr - symudwch i ffwrdd oddi wrtho a dowch allan o'r dŵr, oherwydd mae'r rhain yn gallu bod yn wenwynig. Rhowch wybod i'r Wardeniaid amdanynt.
Cyngor i'r cyhoedd a thirfeddianwyr
Sbwriel

Mae hon yn broblem enfawr a dylai unrhyw drefnydd digwyddiad sicrhau eich bod chi’n:

Cynnwys hyn mewn unrhyw 'gynllun digwyddiad' a phenodi rhywun o'ch sefydliad i ddelio â'r mater hwn.
Gwneud yn siŵr bod hyn yn cynnwys gwaredu gwastraff organig fel creiddiau afal, crwyn banana, croen oren a bwyd arall dros ben.
Peidiwch â cheisio llenwi unrhyw finiau yn y gymuned leol - ewch â phopeth i ffwrdd ac ailgylchu cymaint â phosibl.
Sicrhewch fod y mater hwn yn cael ei gynnwys yn ystod unrhyw drefniadau clirio ar ôl y digwyddiad.
Cychod diogelwch ar gyfer digwyddiadau

Caniateir cychod diogelwch modur i oruchwylio digwyddiadau hwylio neu nofio ond rhaid iddynt gadw at y terfyn cyflymder a chael eu gyrru gan berson cymwys (sydd â chymhwyster trin cychod bach cydnabyddedig).

Sylwch fod angen trwydded arbennig ar gyfer unrhyw gwch achub ar y llyn. Gellir cael y drwydded gan Swyddfa’r Wardeiniaid trwy drefniant ymlaen llaw.

Ffôn: 01678 520626
E-bost: parc@eryri.llyw.cymru

Tywydd

Mae Llyn Tegid yn llyn dŵr croyw mawr ond peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd yr amodau’n ysgafn neu’n gysgodol ar unrhyw adeg. Byddwch yn ymwybodol y gall amodau newid yn gyflym a dylech fonitro hyn yn barhaus yn ystod unrhyw weithgareddau rydych chi’n eu gwneud.

Gwiriwch y rhagolygon lleol ymlaen llaw bob amser.

Metcheck

Gwybodaeth Ddefnyddiol

Am ddolen ddefnyddiol arall i’r Bala – Llyn Tegid a gweithgareddau, gweler y dolenni isod:

Go Bala

Llyn Tegid

Am wybodaeth am Lwybr Canŵio.

Teithiau Canŵ

 

Llwybr Pob Gallu
Llwybr Pob Gallu