Pwrpas y Canllaw Digwyddiadau
Mae’r diddordeb a’r amrywiaeth o weithgareddau elusennol, hamdden a gweithgareddau her trefniedig wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae nifer fawr o sefydliadau ac elusennau yn gwneud defnydd llawn o’r awyr agored yn Eryri – yn enwedig ar Yr Wyddfa ei hun. Bydd y ddogfen hon yn cynnig cyngor ymarferol i drefnwyr digwyddiadau ar sut i ymgymryd â’r gweithgareddau hyn mewn ffordd ddiogel, gyfrifol, gynaliadwy ac effeithlon nad yw’n niweidiol i ddibenion y Parc Cenedlaethol ac yn sicrhau bod y rhinweddau arbennig hynny’n cael eu cynnal.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn cymryd ymagwedd gyfeillgar tuag at ddigwyddiadau ac mae’n cydnabod bod digwyddiadau yn cynnig llawer o gyfleoedd i fwynhau ar ffurf hamdden awyr agored sy’n fuddiol i iechyd a lles, sydd â’r gallu i godi symiau sylweddol o arian ar gyfer elusennau a chyfrannu’n sylweddol at yr economi leol bob blwyddyn.
Er bod y rhan fwyaf o ddigwyddiadau wedi’u trefnu’n dda, bu achosion o arferion a rheolaeth wael sy’n arwain at darfu diangen ar drigolion lleol, ymwelwyr eraill, digwyddiadau eraill sydd wedi’u cynllunio, busnesau lleol, arferion ffermio a difrodi tirweddau a chynefinoedd gwarchodedig.
Gall digwyddiad wedi’i gynllunio’n dda helpu i leihau unrhyw effeithiau negyddol tra’n darparu cyfleoedd gwych ar gyfer antur a mwynhad yn yr awyr agored sydd o fudd i bawb.
Felly, mae angen i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wybod pa ddigwyddiadau maint canolig a mwy (y rhai sy’n cynnwys 50 neu fwy o gyfranogwyr) sy’n cael eu trefnu yn yr ardal. Mae’r rhain yn cynnwys digwyddiadau sy’n cael eu trefnu er budd masnachol, y rhai a drefnir i godi arian ar ran sefydliadau elusennol cofrestredig neu achosion da eraill.
Mae gwybod sut maent yn cael eu cynllunio a’u trefnu yn ein galluogi i gynnig arweiniad a chyngor ymarferol fel y gallant ddigwydd heb fawr o anhawster ac aflonyddwch i’r amgylchedd, cymunedau lleol a defnyddwyr hamdden eraill.
Y math o ddigwyddiadau a gwmpesir gan y canllawiau hyn yw:
Gweithgareddau ar droed, beicio, marchogaeth ceffylau sy’n denu mwy na 50 o gyfranogwyr. Anogir gweithgareddau ar gyfer llai na 50 hefyd i gadw at y canllawiau hyn.
Rheol gyffredinol ar gyfer digwyddiadau ac amserlenni a argymhellir ar gyfer cyfathrebu lle bo angen.
| Maint y digwyddiad | Bach | Canolig | Mawr |
| Digwyddiadau ar droed | 25-50 | 50-250 | 250+ |
| Digwyddiadau beicio mynydd | 30 | 30- 50 | 50+ |
| Digwyddiadau marchogaeth/ ceffylau | 10 | 11-30 | 30+ |
| Bach | Canolig | Mawr | |
| Y cyfnod paratoadol a argymhellir o ran amser ac ymchwil | 2 fis | 6 -12 mis | 12 – 16 mis |
| Manylion y digwyddiad | 1 mis | 2 – 4 mis | 4-8 mis |
| Manylion terfynol | 2 wythnos | 4 wythnos | 2 fis |
Nid oes angen ymgynghori ag Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar unrhyw ddigwyddiadau lle mae yna lai na 50 o bobl; fodd bynnag, rydym bob amser yn barod i gynnig cyngor i’r grwpiau neu’r unigolion hynny os oes angen.
Wrth gynllunio gweithgareddau allan o’r cyffredin (waeth beth fo maint y grŵp) dylid trafod y rhain bob amser gyda swyddogion Awdurdod y Parc Cenedlaethol er mwyn osgoi unrhyw anawsterau.
Er bod y rhan fwyaf o ddigwyddiadau ffurfiol yn digwydd ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus presennol (h.y. llwybrau troed a llwybrau march / ceffylau), mae swm sylweddol o’r tir yn y Parc Cenedlaethol wedi cael ei ddynodi fel tir mynediad ac yn eiddo preifat ac rydym yn argymell yn gryf bod trefnwyr digwyddiadau canolig a mwy yn cysylltu â thirfeddianwyr ar hyd y llwybr arfaethedig mewn da bryd (gweler y grid canllawiau uchod).
Mae tirfeddianwyr yn gwerthfawrogi deialog gynnar ac o ystyried eu gwybodaeth a’u harbenigedd lleol, maent mewn sefyllfa unigryw i allu cynorthwyo a chynghori trefnwyr. Caniatewch ddigon o amser a’u cynnwys yn eich gweithgareddau cynllunio cyn y digwyddiad er mwyn osgoi unrhyw wrthdaro diangen â’u priod weithgareddau amaethyddol nhw, fel hel defaid, wyna, arferion cynefino, ymdrin â lloi, rheoli stoc, torri/storio gwair/silwair, gwaith draenio, drilio cnydau, walio, chwistrellu cnydau neu waith ffensio. Dylid cymryd gofal arbennig wrth unrhyw leoliadau ffiniol – mae’r rhain yn gallu creu problemau, yn enwedig ar gyfer rheoli stoc.
Mae hyn yn hanfodol os ydych chi’n cynllunio, unrhyw lwybrau ar dir mynediad nad ydynt ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus ond sydd ar ‘dir mynediad’ (fel y disgrifir gan Ddeddf CGaHT 2000 ac a amlinellir ar unrhyw fap OS Explorer 1.25.000 mewn lliw hufen). Yn yr achos hwn, dylech wastad gysylltu â’r tirfeddianwyr perthnasol a chael caniatâd ganddynt ymhell ymlaen llaw. Gall yr ardaloedd hynny hefyd gynnwys tir comin lle mae pori ar y cyd yn digwydd felly bydd angen i chi gysylltu ag Ysgrifennydd Cymdeithas y Porwyr perthnasol.
Ar gyfer mynediad i goetir cyhoeddus heblaw am ddefnyddio Hawl Tramwy Cyhoeddus (fel arfer coedwigoedd conifferaidd ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru), bydd angen i chi ofyn am ganiatâd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar gyfer cynnal unrhyw weithgareddau trefnedig. Sylwch y gall coetiroedd eraill fod yn eiddo preifat a bydd angen caniatâd gan dirfeddianwyr.
Cyfrifoldeb y trefnwyr yw cysylltu â thirfeddianwyr pan fo angen, felly cynlluniwch yn gynnar. Nodwch nad yw’r Parc Cenedlaethol yn cael rhoi manylion tirfeddianwyr i eraill, o dan y Ddeddf Diogelu Data (GDPR).