Eryri yw’r pedwerydd Parc Cenedlaethol mwyaf o fewn teulu’r DU ac mae’n ofynnol yn gyfreithiol iddo gyflawni dau bwrpas statudol:

  • Gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal.
  • Hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd ddeall a mwynhau rhinweddau arbennig y Parc Cenedlaethol.

Mae gennym hefyd ddyletswydd i geisio meithrin lles economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol o fewn y Parc.

Mae’r diddordeb a’r amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau elusennol, hamdden a threfniadol wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae nifer fawr o sefydliadau ac elusennau yn gwneud defnydd llawn o’r awyr agored yn Eryri – yn enwedig ar Yr Wyddfa ei hun.

Bydd y ddogfen hon yn cynnig cyngor ymarferol i drefnwyr digwyddiadau ar sut i ymgymryd â’r gweithgareddau hyn mewn ffordd ddiogel, gyfrifol, gynaliadwy ac effeithlon fel nad ydynt yn niweidiol i bwrpasau’r Parc Cenedlaethol ac er mwyn sicrhau bod y rhinweddau arbennig hyn yn cael eu cynnal.

Canllawiau ar gyfer Digwyddiadau Cystadleuol, Hamdden ac Elusennol

Cofrestru eich digwyddiad

Yn 2021 treialodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri rhaglen beilot ar gyfer cofrestru digwyddiadau. Mae’r wybodaeth yma yn mynd i’n galluogi ni annog trefnwyr digwyddiadau i gysidro cynnal digwyddiadau ar draws y tymor, yn enwedig yn ardal Yr Wyddfa. Mi fydd hyn yn gyfle hefyd i ni rannu negeseuon o flaen llaw gyda trefnwyr digwyddiadau yn enwedig ar fynydda diogel, trafnidiaeth gynaladwy a rheoli sbwriel.

Os yw eich grŵp neu fudiad yn cynllunio digwyddiad ar Yr Wyddfa neu Eryri, defnyddiwch y dolenni isod i gofrestru. Ni fydd y manylion hyn yn cael eu rhannu, maent at ddefnydd mewnol yn unig.

2024: Cofrestru ar gyfer digwyddiadau yn Llanberis a’r Wyddfa.
2025: Cofrestru ar gyfer digwyddiadau yn Llanberis a’r Wyddfa.

Am fwy o wybodaeth ynglyn a threfnu digwyddiad yn Eryri cysylltwch gyda Peter Rutherford ar 01766 772258 neu peter.rutherford@eryri.llyw.cymru