Ga’ i wasgaru llwch yn y Parc Cenedlaethol?

Ychydig iawn o dir y mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn berchen arno o fewn y Parc Cenedlaethol, felly mae’n rhaid ichi gael caniatâd perchennog y tir yn gyntaf. Mae Awdurdod y Parc yn gwerthfawrogi y gall pobl ddatblygu hoffter mawr o rai lleoedd.

A fydd gwasgaru llwch yn effeithio ar fywyd naturiol yr ardal?

Ni fyddai Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri o blaid unrhyw beth sy’n newid yr ecosystem naturiol mewn ardaloedd o ddiddordeb cadwraethol. Mae tua 29% o Eryri yn ardaloedd sydd wedi’u dynodi am eu pwysigrwydd gwyddonol arbennig, a byddai angen ymgynghoriad ar gyfer ceisiadau i wasgaru llwch ar Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSIs) a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol (NNRs).

Ga’ i wasgaru llwch ar gopa’r Wyddfa?

Mae Llywodraeth Cymru yn lesio darn o dir ar gopa’r Wyddfa i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.  O ystyried y nifer uchel o gerddwyr, mae’n bosibl na chewch lawer o breifatrwydd i wneud rhywbeth a all fod yn sensitif iawn i deulu ei wneud, a gall hefyd beri gofid ac anghyfleustra i eraill.

Nid yw’r Parc Cenedlaethol yn annog gwasgaru llwch ar Yr Wyddfa. Mae ardal y copa yn ddaearyddol fychan ac mae’r pridd sydd yno o asidedd isel; gall cyflwyno sylwedd ychwanegol, sy’n gemegol wahanol, gael effaith gronnus a niweidiol ar y pridd a’r llystyfiant cyfagos. Mae llwch, yn benodol, yn cynnwys lefelau pH uchel a sodiwm uchel. Mae’r rhybudd ynghylch ardaloedd cadwraeth yn dal yn berthnasol.

Ga’ i godi plac, carreg neu fainc goffa er cof am rywun annwyl?

Nid yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri o blaid cerrig coffa, placiau na meinciau gan y gallant amharu ar y teimlad o wylltineb y mae llawer o bobl yn dod i’w fwynhau. Fodd bynnag, gall rhai safleoedd a reolir yn ffurfiol fod yn addas, ac er nad oes unrhyw ardaloedd addas gan Awdurdod y Parc, efallai y gall Cyfoeth Naturiol Cymru neu’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol eich helpu.

Ystyriwch opsiynau eraill, fel plannu coeden neu wneud cyfraniad i sefydliadau sy’n gofalu am yr ardal — gan gynnwys y Parc Cenedlaethol, Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Coed Cadw, Cymdeithas Eryri, a llawer o rai eraill sy’n helpu i gynnal tirwedd unigryw Eryri.

Bydd unrhyw blaciau neu feini coffa yn cael eu tynnu oddi ar Yr Wyddfa.