Ein hymrwymiad

Mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi ymrwymo i ddarparu cyfle cyfartal i bob ymgeisydd wrth wneud cais am rôl. Mae ein polisïau a’n gweithdrefnau yn sicrhau nad oes unrhyw wahaniaethu yn erbyn unrhyw un sy’n gwneud cais i weithio i’r Awdurdod neu sy’n cael ei gyflogi ganddo ar hyn o bryd.

Y Ddeddf Cydraddoldeb

Mae’r Awdurdod yn cadw at y Ddeddf Cydraddoldeb ac yn deall pwysigrwydd y naw nodwedd warchodedig wrth recriwtio.

Polisïau a gweithdrefnau

Nod yr Awdurdod yw hyrwyddo cyfle cyfartal i’r holl weithwyr drwy ei bolisïau. Mae enghreifftiau o bolisïau presennol sy’n ymwneud â chyfle cyfartal yn cynnwys:

  • Gwyliau Arbennig
  • Absenoldeb Rhiant (Mamolaeth/Tadolaeth)
  • Cynllun fflecsi
  • Polisi Absenoldeb Arbennig
  • Polisi Menopos
  • Polisi Gweithio’n Hybrid
  • Polisi Addasiadau yn y Gweithle
  • Polisi Hawl i Ofyn am Weithio Hyblyg
  • Polisi Dysgu a Datblygu

Gweithdrefnau recriwtio

Nod yr Awdurdod yw creu proses deg a thryloyw wrth recriwtio’n fewnol neu’n allanol. Mae’r gweithdrefnau hyn yn cynnwys:

  • Cynhyrchu disgrifiadau swydd gywir gyda manylebau person i ddangos sgiliau hanfodol a dymunol.
  • Asesu pob rôl swydd gan ddefnyddio’r Fframwaith Sgiliau Iaith Gymraeg.
  • Defnyddio ffurflenni ymgeisio sy’n gofyn am y wybodaeth sy’n berthnasol i’r swydd yn unig.
  • Hysbysebu swyddi gwag yn fewnol ac yn allanol fel arfer safonol, ac eithrio, er enghraifft, pan fo staff mewn perygl o gael eu diswyddo neu os bydd recriwtio’n cael ei rewi.
  • Rhoi ymgeiswyr ar restr fer yn erbyn y meini prawf a restrir yn y fanyleb person; gwneir hyn gan y panel cyfweld.
  • Creu amgylchedd cyfweld cyfforddus gyda chwestiynau sy’n adlewyrchu rôl y swydd.
  • Darparu addasiadau rhesymol drwy gydol y broses recriwtio.
  • Cofnodi’r rhesymau dros benderfyniadau a wnaed gan y panel cyfweld.
  • Darparu adborth cyfrinachol i ymgeiswyr ar gais.

Disability Confident logo featuring a purple and green design with a checkmark, symbolizing commitment to inclusivity and supporting disabled people in the workplace.