Asesu ac Adrodd ar Amodau Dan Draed (Gaeaf 2025/26)

Er mwyn helpu cerddwyr i wneud penderfyniadau gwybodus cyn mentro allan ar y mynydd yn ystod y gaeaf, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn dymuno penodi contractwr profiadol a chymwys i gyflawni’r briff o asesu ac adrodd ar amodau tir gaeafol ar Yr Wyddfa. Bydd y contractwr yn adrodd ar agweddau megis y tywydd a gorchudd eira a rhew ar lwybrau i fyny i’r copa, bob dydd Mawrth a dydd Gwener yn ystod tymor y gaeaf, gan ddechrau rhwng 11eg o Dachwedd 2025 a’r 28ain o Ebrill 2026.

Dyddiad ac amser cau ar gyfer cyflwyno tendr: 12:00yp, Dydd Gwener, Hydref 17, 2025

Ceir rhagor o fanylion am friff y cytundeb a gofynion penodol isod.

Briff Cytundeb Adrodd ar Amodau Dan Draed

Os oes angen unrhyw fanylion pellach arnoch, cysylltwch â Simon Roberts, Uwch Warden (Gogledd), ar 07342 705 884 neu simon.roberts@eryri.llyw.cymru. Fel arall, cysylltwch â Warden Ardal Yr Wyddfa, Alun Gethin Jones, ar 01286 872 555 neu alun.jones@eryri.llyw.cymru.