Pwyllgorau i ddod
Bydd yr Awdurdod yn cyfarfod drwy gyfrwng y Gymraeg gyda chyfleusterau cyfieithu ar y pryd.
- 10 Gorffennaf, 2024 am 10:00yb
- 27 Tachwedd, 2024 am 10:00yb
- 19 Mawrth, 2025 am 10:00yb
Mae hyd at dair blynedd o raglenni Pwyllgorau Perfformiad ac Adnoddau ar gael ar y wefan hon. Cysylltwch â’r Awdurdod os hoffech chi gopi o raglen sy’n dyddio’n ôl dros dair blynedd.
Darllediadau a Recordiadau
Ni fydd y Pwyllgor Perfformiad ac Adnoddau yn cael ei ddarlledu’n fyw. Bydd recordiad o’r pwyllgor yn cael ei uwchlwytho i sianel YouTube Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn y dyddiau’n dilyn y cyfarfod.
Ymholiadau gan Y Wasg
Os oes gennych ddiddordeb mewn unrhyw eitem sy’n ymddangos ar Raglenni Cyfarfodydd yr Awdurdod, gallwch dderbyn rhagor o wybodaeth neu drefnu datganiad drwy anfon ebost at gwen.aeron@eryri.llyw.cymru neu ioan.gwilym@eryri.llyw.cymru.
Aelodau’r Awdurdod
Mae rhestr o aelodau’r Awdurdod ar gael ar y dudalen Aelodau a Staff.
Hawl i’r Cyhoedd Holi
Mae’r Awdurdod yn clustnodi hyd at 20 munud ar ddechrau ei gyfarfod i roi cyfle i aelodau’r cyhoedd ofyn cwestiynau penodol sy’n ymwneud â gwaith yr Awdurdod (ag eithrio ceisiadau cynllunio) sy’n berthnasol i ddyletswyddau a phwrpasau’r Parc.
Rhaid cyflwyno’r cwestiynau’n ysgrifenedig (trwy’r post neu e-bost) i’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol o leiaf 7 niwrnod cyn y cyfarfod.