Cynhelir Cyfarfodydd yr Awdurdod ar sail ‘hybrid’ a caiff aelodau o’r cyhoedd fynychu mewn person os y dymunant. Caiff cyfarfodydd eu gwe-ddarlledu yn fyw a bydd recordiad ar gael i’w wylio’n ôl.
Mynychu Cyfarfod yr Awdurdod mewn person
Cynhelir Cyfarfod yr Awdurdod yn Swyddfa’r Parc Cenedlaethol ym Mhenrhyndeudraeth. Gallwch fynychu’r cyfarfod mewn person drwy ymweld â’r swyddfa ar y dyddiad y cynhelir y cyfarfod.
Gwe-ddarlledu a recordiadau
Gwe-ddarlledir Cyfarfodydd yr Awdurdod yn fyw ar sianel YouTube Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Gellir hefyd gwylio recordiad o’r cyfarfod yn ôl.
Cyfarfodydd
Bydd yr Awdurdod yn cyfarfod drwy gyfrwng y Gymraeg gyda chyfleusterau cyfieithu ar y pryd.
- 12 Mehefin, 2024 am 10:00yb (Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol)
- 11 Medi, 2024 am 10:00yb
- 13 Tachwedd, 2024 am 10:00yb
- 5 Chwefror, 2025 am 10:00yb
- 30 Ebrill, 2025 am 10:00yb
- 11 Mehefin, 2025 am 10:00yb (Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol)
Mae hyd at dair blynedd o raglenni Cyfarfodydd yr Awdurdod ar gael ar y wefan hon. Cysylltwch â’r Awdurdod os hoffech chi gopi o raglen sy’n dyddio’n ôl dros dair blynedd.
Recordiadau Cyfarfodydd yr Awdurdod
Mae Cyfarfodydd yr Awdurdod yn cael eu cynnal ar sail ‘hybrid’. Mae recordiadau o’r cyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho i sianel YouTube Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Ymholiadau gan Y Wasg
Os oes gennych ddiddordeb mewn unrhyw eitem sy’n ymddangos ar Raglenni Cyfarfodydd yr Awdurdod, gallwch dderbyn rhagor o wybodaeth neu drefnu datganiad drwy anfon ebost at gwen.aeron@eryri.llyw.cymru neu ioan.gwilym@eryri.llyw.cymru.
Aelodau’r Awdurdod
Mae rhestr o aelodau’r Awdurdod ar gael ar dudaeln Aelodau a Staff.
Hawl i’r Cyhoedd Holi
Mae’r Awdurdod yn clustnodi hyd at 20 munud ar ddechrau ei gyfarfod i roi cyfle i aelodau’r cyhoedd ofyn cwestiynau penodol sy’n ymwneud â gwaith yr Awdurdod (ac eithrio ceisiadau cynllunio) sy’n berthnasol i ddyletswyddau a phwrpasau’r Parc.
Rhaid cyflwyno’r cwestiynau’n ysgrifenedig (trwy’r post neu e-bost) i’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol o leiaf 7 niwrnod cyn y cyfarfod.