Dysgwch sut mae Cronfeydd Cymunedol Eryri wedi cefnogi mentrau lleol a phrosiectau mawr ar draws Eryri.
Dyma rai enghreifftiau o brosiectau rydyn ni wedi’u cefnogi drwy’r Gronfa Llesiant Cymunedol dros y blynyddoedd diwethaf.
Swm grant: Hyd at £500
Yn 2025, derbyniodd y Ganolfan Dysgu Awyr Agored Pen y Bryn grant o £473.40 gan ein Cronfa Lles Cymunedol i gynnal sesiynau nofio gwyllt yng Ngwynedd. Defnyddiwyd y cyllid i ddarparu offer diogelwch hanfodol, talu am yswiriant y prosiect, ac ariannu treuliau gwirfoddolwyr.
Wedi’i arwain gan unigolyn mewn adferiad o gaethiwed, cefnogodd y prosiect 47 o bobl leol hefyd mewn adferiad. Cynhaliwyd y sesiynau rhwng Hydref 2024 a Mawrth 2025 yn Llyn Padarn ac Afon Ogwen.
Derbyniodd y prosiect cymunedol ‘Lle i enaid orffwys’ gefnogaeth gan ein Cronfa Llesiant Cymunedol i drawsnewid rhan o Gae Brenin Siôr V yn Harlech.
Defnyddiwyd y grant i blannu bylbiau a blodau gwyllt brodorol Cymreig, gan gefnogi rhywogaethau prin a chreu lle heddychlon i’r gymuned. Fe’i dyluniwyd gan fyfyrwyr Ysgol Ardudwy ac fe’i gwireddwyd gan dîm ymroddedig o wirfoddolwyr – gan droi’r ardal yn hafan fywiog i bobl a bywyd gwyllt.
“Ni fyddai’r prosiect hwn wedi bod yn bosibl heb grant Lles Cymunedol Parc Cenedlaethol Eryri,” meddai Joe Patton, Arweinydd y Prosiect, “Mae wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r amgylchedd ac i bawb sy’n ymweld â lle arbennig hwn.”
Dyma rai enghreifftiau o brosiectau rydyn ni wedi’u cefnogi drwy Gronfa Cymunedau Eryri dros y blynyddoedd diwethaf.
Swm grant: £5,000 – £25,000
Cymdeithas Enweirio Prysor (PAA)
Nod y cynllun oedd adfywio Canolfan Prysor sef yr hen glwb cymdeithasol ar lan Llyn Trawsfynydd. Adnewyddwyd yr adeilad yn sylweddol gan gynnwys to newydd i ran o’r adeilad a gosod paneli solar 50kW ar y to. Mi oedd y gost ariannol ac amgylcheddol o ddefnydd helaeth y ganolfan o ynni ffosil yn uchel felly mi oedd gosod paneli solar ar do sy’n wynebu’r de yn gwneud synnwyr perffaith. Mae hyn wedi galluogi’r Ganolfan i ostwng eu hôl troed carbon o 8 tunnell.
Drwy gefnogaeth Cronfa Cymunedau Eryri 2024-25, gosodwyd cyfanswm o 31 panel a batri, ac mae’r system yn gallu cynhyrchu hyd at 13.795KW.
Mae defnydd yr Eagles o drydan yn uchel oherwydd yr holl offer trydanol sydd ar y safle, ac mae gosod y paneli yma yn allweddol i leihau’r ddibyniaeth ar drydan o’r grid. Mi fydd hyn yn arwain at leihau ôl troed carbon yr adeilad, ac yn arbed costau sylweddol ar yr un pryd, gan wneud yr adeilad yn fwy cynaliadwy ymhob ystyr.
Mae’r gwaith wedi codi ansawdd yr adeilad, ac wedi codi hyder y pwyllgor, gan arwain at brosiectau eraill o fewn y dafarn a’r gymuned ehangach. Mae’r cynllun hefyd wedi arwain at gynyddu cydlyniant cymunedol trwy ddod a phobl at ei gilydd i ddatblygu’r prosiect, ac yna trwy wella adnodd cymunedol yr Eagles – yn dod a phobl at ei gilydd i gymdeithasu, boed hynny yn y dafarn, yn y siop, neu’r tŷ bwyta.
Llwyddodd Cyngor Cymuned Bro Machno i sicrhau grant trwy Gronfa Cymunedau Eryri er mwyn gwella seilwaith cymunedol. Gyda ffocws ar hygyrchedd a chyfleustra technolegol, mae’r grant wedi hwyluso trawsnewid toiledau cyhoeddus ac yn hybu cysylltedd yn yr ardal.
Agwedd allweddol o’r prosiect oedd uwchraddio cyfleusterau toiledau cyhoeddus y pentref i sicrhau cynhwysiant i holl aelodau’r gymuned. Mae gosod pwyntiau mynediad RADAR yn rhoi darpariaeth i unigolion ag anableddau, yn ogystal â hyrwyddo hygyrchedd. Hefyd, mae integreiddio dulliau talu digyswllt, gan gynnwys cerdyn ac Apple Pay, yn symleiddio’r broses, ac yn cynnig cyfleustra i drigolion ac ymwelwyr. Mae’r dyraniad grant hefyd wedi ymestyn i wella cysylltedd digidol o fewn y gymuned.
Mae Cronfa Cymunedau Eryri wedi darparu cyllid hanfodol yn ddiweddar ar gyfer gosod paneli solar ar do Clwb Golff Y Bala. Mae’r datblygiad arwyddocaol hwn nid yn unig yn amlygu ymrwymiad y clwb i gynaladwyedd ond hefyd yn dod â manteision niferus i’r gymuned wledig y mae’n ei gwasanaethu.
Mewn ardal wledig fel hon, mae mannau cymunedol fel clybiau golff yn chwarae rhan hanfodol wrth feithrin cysylltiadau cymdeithasol a darparu cyfleoedd hamdden. Mae’r prosiect yma yn sicrhau y gall y clwb barhau i weithredu gan gynnig lle i drigolion ymgynnull a mwynhau gweithgareddau awyr agored. Bydd gosod paneli solar ar do’r clwb yn cael effaith sylweddol ar ddefnydd ynni’r clwb golff a’r costau cysylltiedig. Trwy harneisio pŵer yr haul, bydd y clwb yn lleihau ei ddibyniaeth ar ffynonellau ynni traddodiadol yn sylweddol, gan arwain at arbedion ar filiau ynni. Yna gellir ail-fuddsoddi’r arbedion hyn i gynnal cyfleusterau’r clwb, gan wella’r profiad cyffredinol i aelodau ac ymwelwyr.