Gall digwyddiadau gael effeithiau niweidiol ar ein tirweddau a’n hamgylcheddau dynodedig.

Er mwyn lliniaru hyn, rydym yn cynnal gwelliannau a gwaith cynnal a chadw yn barhaus, sy’n gofyn am fuddsoddiad sylweddol. Mae hyn yn cynnwys wynebu, gosod llwybrau troed, waliau,arwyddion, draenio, cynnal a chadw/ailosod dodrefn a gatiau a darparu gwybodaeth ddigidol gyfredol. Trwy wneud rhodd heddiw, gallwch ein helpu i ofalu am y lle ysblennydd hwn nawr ac ar gyfer y dyfodol.

Os hoffech ystyried helpu Awdurdod y Parc Cenedlaethol i gynnal yr amgylcheddau bregus hyn a darparu mynediad o ansawdd da, yna gofynnwch i’ch cyfranogwyr ystyried rhoi ychydig o bunnoedd y pen i ni yn uniongyrchol neu fel arall, gallai trefnwyr y digwyddiad ofyn am rodd yn eu ffi gofrestru, y gellir ei anfon ymlaen atom wedyn.

Gall unigolion hefyd ystyried gwneud rhodd breifat gan ddefnyddio’r un manylion isod.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni eich bod yn gwneud rhodd a dyfynnwch mai ‘rhodd mynediad’ yw hwn fel cyfeirnod fel y gellir bancio arian a’i briodoli’n gywir. Mae sieciau neu daliadau gan BACS yn daladwy i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Rhoi rhodd

 

 

Cynllun Yr Wyddfa
Partneriaeth Yr Wyddfa
Mae Partneriaeth Yr Wyddfa yn grŵp a sefydlwyd i greu ac yna gweithredu cynllun rheoli newydd ar gyfer Yr Wyddfa. Mae'r grŵp yn cynnwys unigolion sy'n cynrychioli'r sefydliadau a'r tirfeddianwyr sy'n gyfrifol am reoli'r mynydd ar lawr gwlad - yn amrywio o waith cadwraeth a rheoli llwybrau i dwristiaeth, ffermio ac achub mynydd.

diolch

Hoffai’r PARC CENEDLAETHOL ddiolch i chi ymlaen llaw am unrhyw gyfraniad yr hoffech ei wneud ac am wneud gwahaniaeth sylweddol i’r amgylchedd

Bydd pob rhodd yn cael ei gydnabod (er nad y swm) ar ein tudalen rhoddion ar ein gwefan a’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol.