Nid oes unrhyw hawl statudol i gael mynediad at ddŵr yng Nghymru a Lloegr o dan y ddeddfwriaeth gyfredol heblaw terfynau llanw felly bydd angen caniatâd tirfeddianwyr neu ymgymerwyr statudol fel cwmnïau dŵr ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau neu weithgareddau sy’n ymwneud ag unrhyw gyrff dŵr croyw – gan gynnwys afonydd, llynnoedd, cronfeydd dŵr neu gamlesi. Gofynnwch am gyngor pellach gan swyddogion y Parc Cenedlaethol os oes angen.

Yng Ngogledd Eryri mae mynediad i ganŵs drwy ganiatâd ar afon Conwy Uchaf o Ysbyty Ifan i’r allanfa yn y gilfan ger Bron Ruffydd ac ar afon Glaslyn rhwng Llyn Gwynant a Phont Aberglaslyn (yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol). Sylwch fod mesuryddion lefel dŵr yn y mannau hyn a dylai padlwyr gael mynediad at ddyfroedd dim ond pan fo’r amodau’n addas fel y nodir gan y mesuryddion. Mae mynediad i ganŵs hefyd ar gael ar Lyn Trawsfynydd ac mae’n ddarostyngedig i ffioedd.Ffôn: 01766 540780
E-bost: prysorcentre@aol.co.uk

Mae mynediad ar gyfer gweithgareddau dŵr ar Lyn Tegid (Y Bala) yn ddarostyngedig i ffioedd. Cysylltwch â Swyddfa Warden Llyn Tegid am ragor o wybodaeth.
Ffôn: 01678 520626
E-bost: parc@eryri.llyw.cymru

Mae’r holl ddyfroedd llanwol ar gael i ganŵio, nofio neu hwylio ond gwiriwch y terfynau llanw lleol.

Cofiwch fod yn ymwybodol o’ch cyfrifoldebau o ran diogelwch dŵr a bioddiogelwch ar unrhyw gyrff dŵr.

Am gyngor pellach gweler

NNSS

Cod y Glannau