Digwyddiadau wedi’u trefnu ar yr Wyddfa

Yn ogystal â’r cyngor a roddir uchod, mae’r canlynol yn ymwneud yn benodol â Digwyddiadau Trefnedig ar Yr Wyddfa.

Mae’r holl lwybrau i gopa’r Wyddfa yn deithiau mynydd heriol.

Mae hyd yn oed y llwybrau a ddisgrifir weithiau fel “haws” yn dal i fod yn anodd a dylid eu cymryd o ddifri. Dylech fod yn hyderus bod eich ffitrwydd a’ch sgiliau mynydd yn ddigonol cyn cychwyn. Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn graddio’r holl lwybrau i’r copa fel “Anodd / Angen Ymdrech o Ddifri”. Dylai fod gan eich cyfranogwyr yr offer a’r cyfarpar addas a phwrpasol ar gyfer treulio diwrnod cyfan ar y mynydd llawn a dim llai na hynny. Gwnewch ffafr â chi eich hun a chliciwch ar y dolenni a argymhellir isod i gael rhagor o wybodaeth.

  • Dylai unrhyw ddigwyddiadau mawr a gynhelir ar Yr Wyddfa ystyried defnyddio’r esgynfa i fyny a’r ddisgynfa i lawr y mynydd trwy ddefnyddio Llwybr Llanberis. Am lwybrau eraill gweler y manylion llawn ar y dolenni isod:

Y tu allan i’r tymor (diwedd Hydref i fis Mai), nid oes cyfleusterau ar gael ar gopa’r Wyddfa ond sylwch y gall y caffi a’r gwasanaeth rheilffordd fod ar gau hyd yn oed yn ystod misoedd yr haf oherwydd tywydd gwael felly peidiwch byth â chymryd yn ganiataol y bydd y cyfleuster hwn ar gael bob amser. Felly cynlluniwch a chaniatáu ar gyfer hyn ac annog pobl i ddefnyddio cyfleusterau toiled cyn i chi gychwyn a chario darpariaethau digonol ar gyfer bwyd a diod a dillad ychwanegol.

Os bydd rhai cyfranogwyr wedi blino, peidiwch â chymryd yn ganiataol bod y trên ar gael i ddod i lawr o’r copa. Mae pob trên fel arfer yn cael ei archebu fel trip dychwelyd ac ni fydd seddi ar gael.

Ar gyfer y gweithgareddau hynny sydd wedi’u cynllunio ar gyfer y nos fel cerdded neu feicio nid oes cyfleusterau ar gael rhwng 6yh a 9yb hyd yn oed yn ystod misoedd yr haf. Mae’r caffi bach hanner ffordd i fyny Llwybr Llanberis yn cynnig bwyd a diod cyfyngedig yn ystod y dydd yn unig. Mae hyn yn golygu dim lloches dan do, dim caffi ac mae’n bwysig nodi, does dim toiledau.

Ar gyfer y digwyddiadau hynny sy’n defnyddio llwybr Llanberis ar gyfer gweithgareddau nos, mae hyn yn golygu y bydd angen i chi gerdded trwy ardaloedd preswyl. Parchwch gymunedau lleol a chadw sŵn a goleuadau i’r lleiafswm yn y nos a hefyd wrth ddychwelyd yn gynnar yn y bore. Peidiwch â cheisio defnyddio’r ardaloedd preswyl hynny fel mannau parcio neu ollwng – mae hyn yn aflonyddu ar drigolion lleol. Trefnwch ollwng ar y brif ffordd (A4096) mewn lleoliad addas a diogel.

*Peidiwch â chaniatáu nac annog unrhyw gyfranogwyr i gerdded i fyny nac i lawr unrhyw ran o Reilffordd Yr Wyddfa nac oddi tani, yn enwedig ger y copa ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Mae hyn yn anghyfreithlon ac yn beryglus.

Parcio a Thrafnidiaeth Gynaliadwy

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn annog trefnwyr digwyddiadau i ystyried trafnidiaeth gynaliadwy ac i ddefnyddio  bysiau mini, bysiau ac ystyried rhannu ceir ar gyfer grwpiau yn hytrach na chyfranogwyr yn cyrraedd mewn cerbydau unigol.

Mae’r  gwasanaeth Bws Sherpa yn rhedeg o Lanberis i Ben y Pass trwy Nant Peris ac fe’i hargymhellir yn gryf ar gyfer grwpiau llai fel dewis arall yn lle parcio ym Mhen y Pass. Mae’r Sherpa yn codi teithwyr o Lanberis a Nant Peris ar ei ffordd i Ben y Pass.

Sylwch fod Pen y Pass yn gweithredu fel man parcio archebu ymlaen llaw rhwng Ebrill a mis Tachwedd yn unig (mae’r union ddyddiadau’n newid yn flynyddol felly gwiriwch ymlaen llaw).

Nid oes modd archebu ymlaen llaw yn unrhyw un o’r meysydd parcio eraill gan gynnwys, Cwellyn, Rhyd Ddu, Nant Peris a Phont Bethania.

 Caniateir gollwng ym Mhen y Pass, gan gynnig opsiwn cyfleus yn ystod amseroedd prysurach.

Fodd bynnag, mae lle yn gyfyngedig iawn, yn enwedig yn ystod y dydd mewn ardaloedd lle mae angen i fysiau Sherpa, bysiau mawr, bysiau mini, a thacsis droi rownd. Er mwyn helpu i atal tagfeydd, byddwch yn barod i adael y cerbyd yn brydlon ar ôl cyrraedd. Sicrhewch fod eich  bagiau wedi cael eu pacio, bod careiau eich esgidiau heicio yn barod i’w defnyddio, a byddwch yn barod i ddechrau eich taith gerdded cyn cyrraedd Pen y Pass. Sylwch y gall staff y Parc Cenedlaethol ofyn i’ch gyrrwr symud ymlaen, os oes angen, er mwyn osgoi blocio’r ffordd ac i gadw traffig i lifo.

Mae parcio ar y ffordd sy’n arwain at Pen y Pass o’r ddau gyfeiriad wedi’i wahardd yn llym ac mae’r heddlu’n ei fonitro’n weithredol. Mae ceir wedi cael eu towio o’r ardal hon yn y gorffennol am rwystro traffig a chreu perygl i ddefnyddwyr eraill y ffordd, felly dylech osgoi parcio yma.

Sylwer: uchafswm hyd y cerbyd a ganiateir yn y maes parcio yw 5 metr.

Sherpa'r Wyddfa
Amserlenni diweddaraf ar gyfer y Sherpa
Amserlenni bws Cyngor Gwynedd
Amserlenni diweddaraf ar gyfer bysiau yng Ngwynedd.
Cytundeb Beicio Gwirfoddol yr Wyddfa

hwn yn ddarostyngedig i gyfyngiadau cytundeb mynediad beiciau gwirfoddol tymhorol ac nid yw ar gael i feicwyr rhwng 10yb a 5yp rhwng 1 Mai a 30 Medi. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ddolen gwefan y Parc Cenedlaethol isod.

Beicio Mynydd ar Yr Wyddfa

Nodyn* Cerddwyr a marchogion ceffylau sy’n cael y flaenoriaeth bob amser ar unrhyw lwybrau ceffylau/march felly yn ôl y gyfraith mae’n rhaid i feicwyr ildio iddynt bob amser (fel y rhagnodir gan Adran 30 o Ddeddf Cefn Gwlad 1968).

Mae trac y Mwynwyr ar gael i feicwyr cyn belled â’r hen felin ger sarn Llyn Llydaw (SH629545) a dim pellach na hynny ar unrhyw adeg.