Ym Mharc Cenedlaethol Eryri, rydym wedi ymrwymo i greu proses recriwtio deg, gyfartal, a llyfn. Dyma grynodeb o sut mae’r broses yn gweithio, ynghyd â rhai awgrymiadau i’ch helpu gyda’ch cais.
Hysbysebu’r swydd
Pan fydd swydd ar gael, gall fod yn rôl barhaol llawn amser, swydd dymhorol, contract cyfnod penodol, neu rôl ran-amser. Mae pob rôl yn cael ei hysbysebu ar ein gwefan drwy ein partner allanol, Webrecruit.
Ymgeisio
Unwaith y caiff y swydd ei hysbysebu, gall ymgeiswyr wneud cais am y rôl drwy ein gwefan. Mae’r ffurflen gais yn gyfle i chi ddangos eich sgiliau a’ch profiad. Mae pob hysbyseb yn cynnwys disgrifiad swydd fanwl a manyleb person:
- Disgrifiad swydd: Rhestr o’r dyletswyddau a’r cyfrifoldebau cysylltiedig â’r rôl.
- Manyleb person: Rhestr o’r sgiliau a’r profiad hanfodol a dymunol sydd eu hangen ar gyfer y rôl.
Bydd pob rôl yn cael ei asesu yn erbyn ein meini prawf Iaith Gymraeg, felly bydd y ffurflen gais yn cynnwys cwestiynau i’n helpu ni i ddeall eich sgiliau Cymraeg.
Dyddiad cau
Bydd gan bob rôl ddyddiad cau clir, fel arfer am hanner nos. Ar ôl yr amser yma, ni fydd y system yn caniatáu i ymgeiswyr gyrchu neu ddiwygio eu ceisiadau. Fodd bynnag, cyn y dyddiad cau, gall ymgeiswyr fewngofnodi eto i olygu eu cais os oes angen.
Llunio rhestr fer
Ar ôl y dyddiad cau, bydd y panel cyfweliad yn adolygu pob cais. Bydd pob cais yn cael ei asesu yn erbyn y fanyleb person. Bydd ymgeiswyr yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer y cam cyfweld neu’n cael gwybod drwy e-bost os oedd eu cais yn aflwyddiannus.
Cyfweliad
Gall cyfweliadau ddigwydd mewn person yn ein pencadlys, allan ar y safle, neu drwy Microsoft Teams, yn dibynnu ar natur y rôl. Bydd y panel cyfweliad yn amrywio yn ôl y swydd. Mae’n fuddiol paratoi drwy ddysgu cymaint â phosibl am y rôl a Pharc Cenedlaethol Eryri.
Ar ôl y cyfweliad, byddwn yn cysylltu â’r holl ymgeiswyr. Gallwch ofyn am adborth gan y panel er mwyn helpu gyda cheisiadau yn y dyfodol.
Gwiriadau terfynol
Ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus, bydd yr Awdurdod yn cynnal gwiriadau hawl i weithio ac yn gofyn am ddau eirda, na fydd yn hŷn na phum mlynedd.
Os oes angen rhagor o gymorth neu addasiadau yn ystod y broses recriwtio, cysylltwch â ni ar adnoddau.dynol@eryri.llyw.cymru.
I gael mwy o arweiniad a chyngor ar wneud cais am rôl gyda ni, ewch i’n tudalen ‘Syniadau ac Awgrymiadau ar gyfer Ymgeisio am Rôl gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri’.