Rydym wedi rhoi rhywfaint o gyngor ymarferol at ei gilydd i helpu gyda’ch cais i ymgeisio am swydd gyda ni. Gall dilyn yr awgrymiadau hyn sicrhau bod eich cais yn adlewyrchu eich sgiliau a’ch profiad yn gywir.
Byddwch yn onest
Darparwch wybodaeth glir a chywir drwy gydol eich cais. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall eich sgiliau a’ch profiad a sut rydych yn bodloni gofynion y rôl.
Aseswch eich sgiliau Cymraeg
Wrth wneud cais am swydd gyda’r Awdurdod, bydd y cwestiynau cychwynnol yn asesu eich sgiliau llafar, darllen, ysgrifennu a gwrando yn y Gymraeg.
I gwblhau’r cwestiynau hyn, cyfeiriwch at y Fframwaith Sgiliau Iaith. Bydd y fframwaith hwn yn eich helpu i asesu’ch lefel hyfedredd yn gywir. Caiff pob rôl ei gwerthuso yn erbyn y fframwaith cyn ei hysbysebu.
Mewn llawer o rolau o fewn yr Awdurdod, mae’r Gymraeg yn hanfodol ac fe’i siaredir yn aml yn y gweithle.
Deall y rôl
Darllenwch y Disgrifiad Swydd yn ofalus. Bydd hyn yn rhoi dealltwriaeth glir i chi o gyfrifoldebau a disgwyliadau’r rôl.
Manylwch ar eich cymwysterau
Mae Manyleb y Person yn amlinellu’r sgiliau, y profiad a’r cymwysterau sydd eu hangen. Defnyddiwch hwn fel canllaw i ddangos sut rydych chi’n bodloni’r meini prawf hyn yn eich cais.
Eich sgiliau
Cynhwyswch yr holl hyfforddiant, cyrsiau a chymwysterau perthnasol, ynghyd ag unrhyw ardystiadau rydych chi wedi’u hennill.
Tynnwch sylw at brofiad perthnasol
Defnyddiwch enghreifftiau penodol i ddangos sut mae eich sgiliau a’ch profiadau yn cyd-fynd â gofynion y rôl. Eglurwch yn glir sut maen nhw’n eich paratoi chi i ragori yn y swydd.
Nodwch eich profiad gwaith a’ch profiad gwirfoddoli
Rhestrwch unrhyw rolau neu gyfleoedd gwirfoddoli blaenorol. Amlygwch sut maen nhw wedi eich helpu chi i feithrin sgiliau neu wybodaeth sy’n berthnasol i’r rôl rydych chi’n ymgeisio amdani.
Paratoi ar gyfer y cyfweliad
Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, edrychwch yn fanwl ar y disgrifiad swydd ac ystyriwch sut mae eich profiadau yn cyd-fynd â’r rôl. Cymerwch amser i ddysgu am Barc Cenedlaethol Eryri, ein gwaith, a’n nodau i’ch helpu i ddeall cyd-destun ehangach y swydd.
Nid ydym yn cynnwys CVs yn ein proses recriwtio, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cwblhau’ch ffurflen gais gyda’r holl fanylion perthnasol.
Os hoffech unrhyw gymorth, neu os hoffech ffurflen gais neu ddisgrifiad swydd mewn ffont mwy, mae croeso i chi gysylltu â ni dros e-bost: adnoddau.dynol@eryri.llyw.cymru
Trwy ddilyn y camau hyn, gallwch sicrhau bod eich cais yn rhoi darlun clir i ni o’ch addasrwydd ar gyfer y rôl. Pob lwc gyda’ch cais!
Cyflogwr Hyderus o Ran Anabledd
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, ac rydym yn gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr anabl sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol fel y nodir ar y swydd disgrifiad/manyleb person.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio person anabl fel person sydd â nam corfforol neu feddyliol, sy’n cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar allu’r person i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.

Ein hystafelloedd cyfweld
Dyma ein hystafelloedd cyfweld; byddwch yn gwneud eich cyfweliad yn un o’r ystafelloedd isod!