Ein hymrwymiad
Mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi ymrwymo i ddarparu cyfle cyfartal i bob ymgeisydd wrth wneud cais am rôl. Mae ein polisïau a’n gweithdrefnau yn sicrhau nad oes unrhyw wahaniaethu yn erbyn unrhyw un sy’n gwneud cais i weithio i’r Awdurdod neu sy’n cael ei gyflogi ganddo ar hyn o bryd.
Y Ddeddf Cydraddoldeb
Mae’r Awdurdod yn cadw at y Ddeddf Cydraddoldeb ac yn deall pwysigrwydd y naw nodwedd warchodedig wrth recriwtio.
Polisïau a gweithdrefnau
Nod yr Awdurdod yw hyrwyddo cyfle cyfartal i’r holl weithwyr drwy ei bolisïau. Mae enghreifftiau o bolisïau presennol sy’n ymwneud â chyfle cyfartal yn cynnwys:
- Gwyliau Arbennig
- Absenoldeb Rhiant (Mamolaeth/Tadolaeth)
- Cynllun fflecsi
- Polisi Absenoldeb Arbennig
- Polisi Menopos
- Polisi Gweithio’n Hybrid
- Polisi Addasiadau yn y Gweithle
- Polisi Hawl i Ofyn am Weithio Hyblyg
- Polisi Dysgu a Datblygu
Gweithdrefnau recriwtio
Nod yr Awdurdod yw creu proses deg a thryloyw wrth recriwtio’n fewnol neu’n allanol. Mae’r gweithdrefnau hyn yn cynnwys:
- Cynhyrchu disgrifiadau swydd gywir gyda manylebau person i ddangos sgiliau hanfodol a dymunol.
- Asesu pob rôl swydd gan ddefnyddio’r Fframwaith Sgiliau Iaith Gymraeg.
- Defnyddio ffurflenni ymgeisio sy’n gofyn am y wybodaeth sy’n berthnasol i’r swydd yn unig.
- Hysbysebu swyddi gwag yn fewnol ac yn allanol fel arfer safonol, ac eithrio, er enghraifft, pan fo staff mewn perygl o gael eu diswyddo neu os bydd recriwtio’n cael ei rewi.
- Rhoi ymgeiswyr ar restr fer yn erbyn y meini prawf a restrir yn y fanyleb person; gwneir hyn gan y panel cyfweld.
- Creu amgylchedd cyfweld cyfforddus gyda chwestiynau sy’n adlewyrchu rôl y swydd.
- Darparu addasiadau rhesymol drwy gydol y broses recriwtio.
- Cofnodi’r rhesymau dros benderfyniadau a wnaed gan y panel cyfweld.
- Darparu adborth cyfrinachol i ymgeiswyr ar gais.
