Ydych chi’n Gyngor Cymuned neu’n fenter gymdeithasol yn Eryri neu’r ardal gyfagos? A oes gennych gynlluniau sy’n gofyn am gyllid sy’n cynnwys naill ai Datgarboneiddio, Twristiaeth neu Adfer Covid?
Yna, efallai y bydd eich grŵp yn gymwys i gael cymorth o dan y cynllun grant cyfalaf untro hwn, a weinyddir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Gwerth y cymorth y gellir ei ystyried yw o £5,000 i £20,000. Noder mai cynllun grant CYFALAF yw hwn ac felly ni ellir cefnogi cyllid refeniw (e.e. staff, neu gostau swyddfa).
Bydd y gronfa gyfalaf ar gael i gymunedau lleol a grwpiau/cymdeithasau gwirfoddol at ddibenion cydnerthedd economaidd-gymdeithasol. Bydd y gronfa ar gael ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/2022 yn unig. Mae hynny’n golygu bod yn rhaid cwblhau a hawlio ar gyfer pob prosiect a ariennir cyn diwedd mis Mawrth 2022.
Mae blaenoriaethau’r gronfa gyfalaf yn eang ac yn adlewyrchu drwy esiampl (ond nid ydynt wedi’u cyfyngu i), yr ardaloedd a restrir isod:
· Cefnogaeth i brosiectau gwydnwch Covid a arweinir gan y gymuned yn yr ardal.
· Prosiectau effeithlonrwydd ynni / carbon isel sydd o fudd i’r gymuned ehangach e.e. neuaddau pentref
· Twristiaeth gynaliadwy
Dywedodd Wyn Ellis-Jones, Cadeirydd APCE:
“Mae’r gronfa hon a ddarperir gan Lywodraeth Cymru ac a weinyddir gan Awdurdod y Parc yn arwydd amserol ac ymarferol o sut y gall y Parc chwarae rhan weithredol yn y gwaith o gynorthwyo cymunedau i adfywio ac ailsefydlu eu hunain yn dilyn y problemau economaidd-gymdeithasol a achosir gan bandemig Covid. Rydym yn annog ac yn edrych ymlaen yn eiddgar at dderbyn ceisiadau gan y gwahanol gymunedau yn Eryri ac o’i amgylch.”
Nodyn i Olygyddion
I gael rhagor o wybodaeth a chyngor anffurfiol, cysylltwch â Etta Trumper, Swyddog Iechyd a Lles: etta.trumper@eryri.llyw.cymru
Am geisiadau’r wasg cysylltwch â Ioan Gwilym, Swyddog Cyfathrebu Gwasanaethau Corfforaethol APCE ar 01766 772 253 / 07900 267506 neu e-bostio ioan.gwilym@eryri.llyw.cymru