Yn ystod hanner tymor yr Hydref, mi fydd gennym ni wledd yn eich disgwyl yn yr Ysgwrn, beth bynnag fo’ch oed.

Dydd Mawrth, 26 Hydref – Creu Coed Hudolus  gyda Mari Gwent.

Byddwn yn cynnal dwy sesiwn grefft ar y dydd Mawrth, ar thema ‘Coed Hudolus’. Bydd y sesiwn gyntaf yn cael ei chynnal am 10am – 12pm, a’r ail 1pm – 3pm.

Mae’r sesiynau yn addas i blant cynradd ac am ddim!

I archebu eich lle, dilynwch y ddolen yma.

Dydd Iau, 28 Hydref – planhigion meddyginiaethol a seryddiaeth

Bydd gennym ddau ddigwyddiad ar y dydd Iau, fydd yn addas i bob oed.

2:30pm – cyflwyniad a sgwrs gyda Bethan Wyn Jones am blanhigion meddyginiaethol

5:30pm – digwyddiad noson dywyll fydd yn cynnwys sesiwn stori seryddol gyda Fiona Collins a chyflwyniad a sgwrs am statws awyr dywyll Eryri yn dilyn hynny.

6:30pm – Gobeithio y bydd y noson yn gorffen gyda chyfle i fynd  allan i edrych ar y sêr yn yr arsyllfa ond mae hynny, yn amlwg, yn ddibynnol ar gael noson glir!

Does dim angen archebu ymlaen llaw ar gyfer y ddau ddigwyddiad yma.

Teithiau hanner tymor

Bydd teithiau o amgylch yr Ysgwrn yn digwydd fel arfer yn ystod hanner tymor, gyda thaith am 11am, 12:30pm, 2pm a 3:30pm.

Os hoffech chi archebu lle ar daith yn ystod eich ymweliad, e-bostiwch yr.ysgwrn@eryri.llyw.cymru